Llangollen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llangollen
Llangollen River Dee Bridge.jpg
Math Tref, Cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth 3,658 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Ddinbych Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Gerllaw Afon Dyfrdwy Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.97°N 3.17°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000165 Edit this on Wikidata
Cod OS SJ215415 Edit this on Wikidata
Cod post LL20 Edit this on Wikidata
Cod deialu 01978 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Ken Skates (Llafur)
AS/au Susan Elan Jones (Llafur)
Gwefan www.llangollen.org.uk Golygu ar Wicidata

Mae Llangollen yn dref yn Sir Ddinbych, sy'n enwog am ei phont hynafol a'i hadeiladau deniadol. Saif ar lan Afon Dyfrdwy. Mae priffordd yr A5 yn mynd drwy Langollen. Mae Caerdydd 165 km i ffwrdd o Langollen ac mae Llundain yn 264 km. Y ddinas agosaf ydy Caer, sy'n 31 km i ffwrdd.

Mae'n enwog am ei safle ar lan Afon Dyfrdwy a'r Eisteddfod Ryngwladol a gynhelir yno'n flynyddol ac sy'n denu cantorion a dawnswyr oddi wrth lawer o wledydd y byd. Cymerodd yr ysgol uwchradd, sef Ysgol Dinas Brân ei henw o'r castell lleol.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Susan Elan Jones (Llafur).[1][2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Llangollen, 1850

Enwir y dref ar ôl Sant Collen (efallai 6g). Cyrhaeddodd Sant Collen y dref mewn cwrwgl, medd traddodiad. Mae enw'r sant i'w gael mewn lleoedd eraill, fel Sant Collen (yng Nghernyw) a Langolen (tref yn Llydaw).

Yn y rhigwm Saesneg o ddiwedd y 18g, mae Pont Llangollen yn un o Saith Rhyfeddod Cymru. Adeiladwyd y bont enwog dros yr Afon Dyfrdwy ar ddiwedd y 14g neu ddechrau'r 15fed gan John Trefor II, Esgob Llanelwy.

Uwchlaw'r dref mae Plas Newydd, lle bu Merched Llangollen yn byw. Dihangodd Eleanor Butler (1739-1829) a Sarah Ponsonby (1755-1831) o deuluoedd aristocrataidd Seisnig yn Iwerddon ac roedden nhw'n byw yn y tŷ am oddeutu hanner canrif.

Yr hen blwyf[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn hen blwyf Llangollen roedd tri thraean:[3]

  • Traean Llangollen: yn cynnwys trefgorddau Bachau, Cysylltau, Llangollen Abad, Llangollen Fawr, Llangollen Fechan, Feifod, Pengwern a Rhisgog.
  • Traean Trefor: yn cynnwys trefgorddau Cilmediw, Dinbren, Eglwysegl, Trefor Isaf a Threfor Uchaf.
  • Traean y Glyn: yn cynnwys trefgorddau Cilcochwyn, Crogeniddon, Crogenwladus, Erwallo, Hafodgynfor, Nantygwryd, Pennant a Thalygarth.

Roedd Llangollen yn yr hen Sir Ddinbych tan 1974, yn Sir Clwyd rhwng 1974 a 1996, ac mae yn y Sir Ddinbych newydd ers 1996.

Pobl o Langollen[golygu | golygu cod y dudalen]

Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Llangollen ym 1908. Am wybodaeth bellach gweler:

Caneuon[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Llangollen Market, traddodiadol
  • Ladies of Llangollen, Ian Chesterman
  • Pastai Fawr Llangollen, Arfon Gwilym

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Atyniadau yn y cylch[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangollen (pob oed) (3,658)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangollen) (697)
  
19.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangollen) (2168)
  
59.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llangollen) (681)
  
40.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?traean
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]