Arfon Gwilym
Jump to navigation
Jump to search
Arfon Gwilym | |
---|---|
Ganwyd |
1 Medi 1950 ![]() Rhydymain ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
canwr ![]() |
Canwr gwerin, baledwr, cyhoeddwr a cherddor Cymreig yw Arfon Gwilym (ganwyd Medi 1950), sy'n enedigol o Rydymain, rhwng Dolgellau a'r Bala, Gwynedd. Mae'n enwog hefyd fel ymgyrchydd iaith[1] ac am ei waith yn hybu canu Plygain a cherdd dant dros y blynyddoedd.
Daeth i'r amlwg yn y noson honno ym Mhafilwn Corwen "Tafodau Tân", ble canodd ddiweddariad o'r gân draddodiadol Marged Fwyn Ferch Ifan yn ystod Eisteddfod Rhuthun yn 1973.[2]
Bu'n ohebydd gyda phapur newydd Y Cymro am dros ddeg mlynedd ac mae wedi ymwreiddio ers hynny yn ardal Meifod a Llanfyllin, Powys.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Cerddoriaeth y Cymry: Cyflwyniad i Draddodiad Cerddorol Cymru (Y Lolfa, 2007)
Disgograffeg[golygu | golygu cod y dudalen]
Prif erthygl: Rhestr o ganeuon Arfon Gwilym