Llanfyllin
![]() | |
Math |
Tref bost, tref farchnad, cymuned, tref ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Powys ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
52.7664°N 3.2725°W ![]() |
Cod SYG |
W04000305 ![]() |
Cod post |
SY22 ![]() |
![]() | |
Tref fechan a chymuned yng ngogledd Powys yw Llanfyllin ( ynganiad ), ond hi hefyd yw'r dref fwyaf yng ngogledd Sir Drefaldwyn. Mae'n gorwedd ym masn afon Cain i'r de o fryniau'r Berwyn, ar y briffordd A490 yn ardal Maldwyn. Mae wedi'i lleoli 14 milltir (23 km) i'r de-orllewin o Groesoswallt a 25 milltir (24 km) o Drefaldwyn. Llifa dwy afon i lawr y dyffryn: afonydd Cain ac Abel, gan ymuno â'r Efyrnwy yn Llansantffraid-ym-Mechain.[1]
Mae'n blwyf eglwysig a fu'n blwyf sifil am gyfnod hefyd ac yn adnabyddus am ei ffynnon sanctaidd, a gysegrir i Sant Myllin. Yng nghyfrifiad 2011 roedd y boblogaeth yn 1,532, gyda dim ond 41.4% wedi'u geni yng Nghymru.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Bu'n dref farchnad ers canrifoedd, mae'n debyg oherwydd ei lleoliad strategol - rhwng yr Amwythig a'r Bala. Gerllaw, tua milltir a hanner o Lanfyllin saif Castell Bodyddon, un o gestyll tywysogion Powys, castell mwnt a beili pur sylweddol a elwir hefyd yn 'Domen yr Allt'. Ond ceir olion hŷn na hyn o'r Oes Efydd a ffordd Rufeinig sy'n nadreddu yr holl fordd i Glawdd Offa.[2] Hen domen, neu fwnt, o'r Oesoedd Canol ydy Tomen y Cefnlloer (neu 'Domen Foel Fochras') c.27-28m mewn diametr a 4.2m o uchder ac mae olion y domen i'w gweld heddiw cyfeiriad grid SJ118225.[3]
Mae yma ffynnon, "Ffynnon Coed y Llanin", a gysegrwyd i Sant Myllin (Gwyddel o'r enw 'Molling', mae'n debyg), ac eglwys a godwyd yn wreiddiol yn y 7g. Arferid bedyddio pobl yn y ffynnon. Mae'r eglwys bresennol, fodd bynnag, yn eglwys frics a godwyd yn 1706 ac sy'n ddwywaith maint yr hen eglwys. Rheithor yma oedd yr Esgob William Morgan (1545 - 10 Medi 1604). Codwyd un o gapeli cyntaf yr Annibynwyr, Capel Pen-dref, yma yn Llanfyllin yn 1701, ond fe'i llosgwyd gan y Jacobitiaid yn 1715 a chodwyd yr adeilad presennol ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Dwy dref drwy Gymru gyfan a dderbyniodd siarter gan y tywysogion Cymreig: Y Trallwng a Llanfyllin, a dderbyniodd ei statws yn 1293[4] (1294 yn ôl Gwyddoniadur Cymru) gan Llywelyn ap Gruffudd ap Gwenwynwyn, Arglwydd Mechain Uwch y Coed a Mochnant Uwch Rhaeadr,[5] yn nheyrnasiad Edward I. Cadarnhawyd y siartr gan Edward de Charlton, dan Harry V, a ddiffiniodd Llanfyllin yn dref farchnad. Yn 1644, treuliodd Charles I y diwrnod yma, ar ei ffordd i'r Brithdir ac yna ymlaen i Gastell y Waun.[1]
Ceir sawl tŷ o ddiddoredeb hanesyddol yn yr ardal. Yn Llanfyllin ei hun ceir 'Manor House', gyda'i bump bae ffenestr, a godwyd yn 1737. I'r gogledd-ddwyrain o'r dref saif Neuadd Bodfach, hen gartref Teulu Kyffin. Codwyd y neuadd yn wreiddiol wedi i Einion Efell etifeddu'r ystâd yn 1160 oddi wrth ei dad Madog ap Maredydd, Tywysog Powys. Codwyd y tŷ gwreiddiol wedi i'r hen fwnt a beili ('Tomen yr Allt') gael ei ddymchwel yn 1256.
Ceir stori garu anghyffredin yn yr ardal, yn dilyn Rhyfeloedd Napoleon (rhwng 1804 a 1815) pan ddaeth carcharor rhyfel Ffrengig, Pierre Augeraud, i Lanfyllin a syrthio dros ei ben a'i glustiau â merch y rheithor lleol, Mary Williams. Mewn ystafell gyferbyn a'r eglwys frics (uwch ben y fferyllfa heddiw), ceir ystafell gyda 13 o luniau rhamantaidd a beintiwyd tua 1812 gan Pierre ac sy'n gorchuddio'r waliau'n gyfangwbwl. Roedd wedi'i ddal yn 1812 yn Badajoz, Sbaen yn un o 148 o swyddogion a ddygwyd i Lanfyllin, fel carcharorion rhyfel; roedd yn 25 mlwydd oed, yn dal gyda gwallt brown a llygaid glas.[6] Pan glywodd tad Mary am y garwriaeth sicrahodd alltudiad Pierre, ac ni chlywyd rhagor amdano. Bu farw'r rheithor, ond yn hydref 1814 daeth cnoc ar ddrws y tŷ, a dyna lle safai Pierre - wedi dychwelyd fel Capten, ar ôl iddo dderbyn y Légion d'Honneur gan Napoleon ei hun. Gyda sêl bendith ei mam, aeth y ddau i Ffrainc i fyw. Yn 1908 daeth Ffrancwr i Lanfyllin ar ymweliad - William Augeraud, gor-ŵyr Pierre.
Pobl o Lanfyllin[golygu | golygu cod y dudalen]
- Edward Davies (Iolo Trefaldwyn) (1819-1887). Bardd ac eisteddfodwr.
- O. V. S. Bulleid (1882– 251970). Treuliodd y peiriannydd rheilffordd ran o'i blentyndod yn y dref.
- Ann Griffiths, Dolwar Fach; yma yn Llanfyllin y cafodd Ann ei throedigaeth grefyddol.
Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9]
Eglwys Sant Myllin[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 "Llanfyllin". The National Gazetteer. 1868. Cyrchwyd 2012-02-11.
- ↑ Roman Britain Organisation. "Mediomanum?" at Roman Britain Archifwyd 2007-04-01 yn y Peiriant Wayback.. 2010.
- ↑ Gwefan Coflein; adalwyd 16 Ionawr 2015
- ↑ http://www.mathrafal.org/parishes/myllin.htm mathrafal.org; gwefan yr Eglwys leol
- ↑ Cofnodion Archifdy Cyngor Sir Powys; adalwyd 16 Ionawr 2015
- ↑ www.secretdiner.co.uk; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. Ffeil Word; adalwyd 16 Ionawr 2015
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Abaty Cwm-hir · Aberbrân · Abercegir · Abercraf · Aberedw · Abergwesyn · Abergwydol · Aberhafesb · Aberhonddu · Aberhosan · Aberllynfi · Aber-miwl · Aberriw · Abertridwr · Aberysgir · Adfa · Arddlin · Bachelldref · Y Batel · Betws Cedewain · Beulah · Bochrwyd · Bontdolgadfan · Bontnewydd ar Wy · Bronllys · Bugeildy · Burgedin · Bwlch · Caersŵs · Capel Isaf · Capel Uchaf · Capel-y-ffin · Carno · Casgob · Castell Caereinion · Castell Madog · Castell Paun · Cathedin · Cefn Cantref · Cefn-gwyn · Cegidfa · Cemais · Ceri · Cilmeri · Y Clas-ar-Wy · Clatter · Cleirwy · Cnwclas · Coelbren · Commins Coch · Crai · Craig-y-nos · Crucywel · Crugion · Cwmdu · Cwm-twrch · Cwrt-y-gollen · Darowen · Defynnog · Derwen-las · Dolanog · Dolfor · Y Drenewydd · Dylife · Einsiob · Eisteddfa Gurig · Erwd · Esgairgeiliog · Felindre, Maldwyn · Felin-fach · Y Foel · Ffordun · Ffrwdgrech · Gaer · Garth · Y Gelli Gandryll · Glangrwyne · Glan-miwl · Glantwymyn · Glascwm · Y Groes · Gwenddwr · Heol Senni · Hyssington · Kingswood · Kinnerton · Libanus · Llan · Llanafan Fawr · Llanandras · Llananno · Llanarmon Mynydd Mawr · Llanbadarn Fynydd · Llanbadarn Garreg · Llanbister · Llanbrynmair · Llandinam · Llandrindod · Llandrinio · Llandyfaelog Tre'r-graig · Llandysilio · Llandysul · Llan-ddew · Llanddewi yn Hwytyn · Llanddewi Ystradenni · Llanelwedd · Llanerfyl · Llanfair Caereinion · Llanfair Llythynwg · Llanfair-ym-Muallt · Llanfechain · Llanfihangel Nant Brân · Llanfihangel Nant Melan · Llanfihangel Rhydieithon · Llanfihangel Tal-y-llyn · Llanfihangel-yng-Ngwynfa · Llanfrynach · Llanfyllin · Llangadfan · Llangadwaladr · Llangamarch · Llangasty Tal-y-llyn · Llangatwg · Llangedwyn · Llangors · Llangurig · Llangynidr · Llangynllo · Llangynog · Llangynyw · Llanhamlach · Llanidloes · Llanigon · Llanllugan · Llanllwchaearn · Llanllŷr-yn-Rhos · Llanrhaeadr-ym-Mochnant · Llansanffraid Cwmdeuddwr · Llansantffraed (Aberhonddu) · Llansantffraed-yn-Elfael · Llansantffraid-ym-Mechain · Llansilin · Llanwddyn · Llanwnnog · Llanwrin · Llanwrthwl · Llanwrtyd · Llanwyddelan · Llanymynech · Llanywern · Llawr-y-glyn · Llechfaen · Llowes · Llys-wen · Llywel · Llwydiarth · Machynlleth · Manafon · Meifod · Merthyr Cynog · Mochdre · Nant Glas · Nantmel · Pandy · Pencelli · Pencraig · Penegoes · Pengefnffordd · Penisarcwm · Pennant Melangell · Pentrecelyn · Pentref Dolau Honddu · Pentrefelin · Penwyllt · Penybont · Pen-y-bont-fawr · Pilalau · Pipton · Pont-faen · Pont Llogel · Pontneddfechan · Pontrobert · Pontsenni · Pwllgloyw · Rhaeadr Gwy · Sant Harmon · Sarn · Sarnau, Brycheiniog · Sarnau, Maldwyn · Sgethrog · Snead · Sycharth · Talachddu · Talerddig · Talgarth · Tal-y-bont · Tal-y-bont ar Wysg · Tirabad · Trallong · Y Trallwng · Trecastell · Trefaldwyn · Trefeca · Trefeglwys · Tref-y-clawdd · Tregynon · Trelystan · Tre'r-llai · Tretŵr · Trewern · Walton · Yr Ystog · Ystradgynlais