Jonathan Hughes

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Clawr cyfrol gan Siwan Rossier ar Jonathan Hughes.

Bardd Cymraeg oedd Jonathan Hughes (17 Mawrth 172125 Tachwedd 1805). Mae'n adnabyddus yn bennaf fel awdur y gyfrol Bardd a Byrddau (1778).[1] Fe'i ganed yn "Nhy'n y Pistyll", Pengwern, Llangollen, Sir Ddinbych ar 17 Mawrth 1721.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymlygwyd ei ddawn farddol yn gynnar yn ei fywyd. Roedd yn un o gyfeillion y bardd ac anterliwtwr Twm o'r Nant. Fel Twm, ac yn ei gwmni'n aml, bu'n cystadlu yn yr eisteddfodau a drefnwyd gan y Gwyneddigion yn negawdau olaf y 18g. Roedd yn fardd cynhyrchiol iawn a oedd yn feistr ar y mesurau carol Cymraeg traddodiadol. Erys llawer o'r cerddi hyn mewn llawysgrif heb eu cyhoeddi a'r unig gyfrol a gyhoeddodd yn ystod ei oes oedd Bardd a Byrddau a hynny yn 1778. Gwyddys iddo gyfansoddi o leiaf un anterliwt hefyd, sef Y Dywysoges Genefetha, a gyhoeddwyd yn 1744. Pan fu farw yn 1805 lluniodd ei gyfaill Twm o'r Nant englyn ar gyfer ei garreg fedd.[1]

Cofebion[golygu | golygu cod y dudalen]

Sonia George Borrow amdano ac mae ei enw ar gofeb a gynlluniwyd gan y pensaer Dewi Prys Thomas ym Mhlas Newydd (Llangollen).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Y Dywysoges Genefetha (1744)
  • Bardd a Byrddau (Stafford Prys, Amwythig, 1778)
  • Gemwaith Awen Beirdd Collen (tua 1807). Detholiad o gerddi gan feirdd ardal Llangollen a gyhoeddwyd gan fab Jonathan Hughes. Gwaith Jonathan Hughes yw swmp y cynnwys.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru