Afon Dyfrdwy

Oddi ar Wicipedia
Afon Dyfrdwy
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd, Sir Ddinbych, Wrecsam, Swydd Amwythig, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Sir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Baner Lloegr Lloegr
Arwynebedd1,491.42 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.3539°N 3.2258°W, 52.8317°N 3.7625°W, 53.3381°N 3.2158°W, 52.972922°N 3.395275°W Edit this on Wikidata
TarddiadDduallt Edit this on Wikidata
AberAber Afon Dyfrdwy Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Tryweryn, Aldford Brook, Afon Ceiriog, Afon Clywedog (Dyfrdwy), Afon Eitha, Wych Brook Edit this on Wikidata
Dalgylch1,816.8 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd110 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad29.71 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethArdal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Afon yng Nghymru a gogledd-orllewin Lloegr yw Afon Dyfrdwy (weithiau hefyd gyda threiglad, Afon Ddyfrdwy); (Saesneg, River Dee; Lladin, Deva Fluvius). Mae'n llifo trwy siroedd Gwynedd, Sir Ddinbych a Wrecsam yng Nghymru ac ar hyd ffin Swydd Gaer a Swydd Amwythig yn Lloegr.

Mae'n llifo o'r bryniau uwchben Llanuwchllyn yng Ngwynedd trwy Lyn Tegid, dros Raeadr y Bedol a thrwy Llangollen. Ger Llangollen, mae Camlas Llangollen (hen enw: Camlas Ellesmere) yn croesi'r afon ar Draphont Pontcysyllte a adeiladwyd gan Thomas Telford ym 1805. Yn Lloegr, mae dinas Caer ar lan ddwyreiniol yr afon. Mae'n llifo i mewn i'w aber yn fuan wedyn; gelwir yr ardal o gwmpas ei glannau yn Lannau Dyfrdwy.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Mae'r enw 'Dyfrdwy' yn hynafol iawn. Ei ystyr lythrennol yw "afon y dduwies" (dwfr "afon" + dwy[w] 'duw, duwies'). Mae'n debyg mai enw Brythoneg yr afon oedd rhywbeth tebyg i *Deiwa (Hen Gymraeg: dwyw) ; pan gododd y Rhufeiniaid gaer ar safle Caer heddiw, Lladineiddwyd y gair hwnnw ganddynt yn Deva, tarddiad yr enw Saesneg ar yr afon, sef Dee.[1]

Afonydd llai sy'n llifo i afon Dyfrdwy[golygu | golygu cod]

Cwrs yr afon[golygu | golygu cod]

Ceir tarddle afon Dyfrdwy ar lechweddau dwyreiniol Dduallt, ychydig i'r gogledd-ddwyrain o gopa Rhobell Fawr ac i'r de-orllewin o bentref Llanuwchllyn. Mae'n llifo tua'r dwyrain, ac yna i'r gogledd-ddwyrain, yn gyfochrog a'r briffordd A494 i gyrraedd Llanuwchllyn. Gerllaw'r pentref, mae afon Lliw yn ymuno â hi, ac ychydig ymhellach ymlaen mae afon Twrch yn ymuno, gerllaw caer Rufeinig Caer Gai. Mae'n llifo trwy Lyn Tegid, ac yn gadael y llyn gerllaw y Bala, lle mae afon Tryweryn yn ymuno â hi.

Llifa'r afon tua'r dwyrain ar hyd Dyffryn Penllyn, heibio Llandderfel ac olion castell Crogen. Mae'n troi tua'r gogledd-ddwyrain a llifo heibio Cynwyd, ac yn fuan wedyn mae afon Alwen yn ymuno â hi. Gerllaw Corwen mae'n troi tua'r dwyrain eto, a llofo ar hyd Dyffryn Edeirnion heibio Carrog a Glyndyfrdwy, gan fynd heibio olion Castell Glyndyfrdwy, hen gaer Owain Glyndŵr, yna'n llifo trwy dref Llangollen. Ychydig ymhellach i'r dwyrain, mae Traphont Pontcysyllte yn cario Camlas Llangollen dros yr afon, rhwng pentrefi Trefor a Froncysyllte.

O'r fan lle mae Afon Ceiriog yn ymuno â hi, mae'r afon yn troi tua'r gogledd-ddwyrain, ac yn ffurfio'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr am rai milltiroedd, cyn dychwelyd i Gymru ger Erbistog a llifo heibio Bangor-is-y-coed. Ychydig ymhellach ymlaen, mae afon Clywedog yn ymuno â hi, yna mae'n llifo tua'r gogledd, gan ffurfio'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr eto, a llifo heibio Holt a Farndon. Mae Afon Alun yn ymuno â hi ychydig ymhellach i'r gogledd. Mae'r afon yn croesi i mewn i Loegr ger Aldford ac yn llifo heibio Eccleston a throi tua'r gorllewin trwy ddinas Caer. Yn fuan wedyn, mae'n dychwelyd i Gymru ac yn llifo tua'r gogledd-orllewin heibio Queensferry a Shotton, cyn lledaenu i greu aber o faint sylweddol, gyda'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr yn arwain ar hyd ei chanol. Mae'n cyrraedd y môr ger y Parlwr Du ar yr ochr Gymreig a Hoylake ar yr ochr Seisnig.

Traddodiadau[golygu | golygu cod]

Ceir cân werin enwog iawn am un o drigolion yr ardal yn beichiogi, a'i diwedd trist, sef 'Ar lan Hen Afon Ddyfrdwy ddofn'.

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Melville Richards, 'Enwau Lleoedd', Atlas Meirionnydd (Y Bala, ail argraffiad 1975), tud. 222.