Afon Tryweryn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Tryweryn tua 2.5 km cyn cyrraedd Llyn Celyn.
Afon Tryweryn rhwng Llyn Celyn ac Afon Dyfrdwy.
Mae "Tryweryn" yn ail-gyfeirio i'r dudalen hon. Am y pentref a foddwyd yn 1965, gweler Capel Celyn.

Afon yng ngogledd Cymru yw Afon Tryweryn sy'n llifo i mewn i Afon Dyfrdwy. Daeth i amlygrwydd pan adeiladwyd argae ar ei thraws i greu Llyn Celyn, i gyflenwi dŵr i ardal Lerpwl, gan foddi pentref Capel Celyn. Mae Afon Tryweryn tua 19 km o hyd.

Mae tarddiad Afon Tryweryn yn Llyn Tryweryn, gerllaw yr A4212 rhwng Trawsfynydd a'r Bala. Wedi llifo tua'r dwyrain yn dilyn yr A4212, mae yn awr yn llifo i Lyn Celyn, lle mae nifer o nentydd yn ymuno. Wedi gadael y llyn mae'n llifo tua'r de-ddwyrain heibio Frongoch ac yna trwy dref Y Bala i gyfarfod Afon Dyfrdwy ychydig islaw Llyn Tegid.

Yn yr Oesoedd Canol, dynodai'r afon ran o'r ffin rhwng dau gwmwd Cantref Penllyn, sef Is Tryweryn ac Uwch Tryweryn.

Mae'r dŵr yn Llyn Celyn yn cael ei storio yn y gaeaf ac yna ei ollwng yn yr haf i gadw lefel Afon Tryweryn, ac felly hefyd Afon Dyfrdwy, yn uchel, fel bod modd tynnu dŵr o Afon Dyfrdwy yn is i lawr. Oherwydd bod modd rheoli llif Afon Tryweryn islaw'r argae, mae Afon Tryweryn wedi dod yn boblogaidd iawn ar gyfer canŵio.