Llyn Tegid
![]() | |
Math | llyn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri ![]() |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 4.84 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 52.8833°N 3.6333°W ![]() |
Hyd | 5.95 cilometr ![]() |
Rheolir gan | Cyfoeth Naturiol Cymru ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
Llyn naturiol mwyaf Cymru yw Llyn Tegid (6.4 km / 4 milltir o hyd, 1.6 km/1 milltir o led). Fe'i lleolir i'r de o'r Bala yng nghanol ardal Penllyn ym Meirionnydd, de Gwynedd. Mae Afon Dyfrdwy yn llifo trwyddo. Mae Rheilffordd Llyn Tegid yn rhedeg ar hyd ei lannau deheuol. Mae'n gorwedd rhwng mynyddoedd Aran Benllyn a'r Berwyn i'r dwyrain ac Arenig Fawr i'r gorllewin. Mae'r llyn yn boblogaidd iawn i hwylio, bordhwylio, canŵio a physgota. Ar ei lan gogleddol ceir Canolfan Glanllyn, gwersyll yr Urdd.
Bywyd gwyllt
[golygu | golygu cod]![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/28/Llyn_Tegid-Lake_Bala_-_geograph.org.uk_-_1425935.jpg/223px-Llyn_Tegid-Lake_Bala_-_geograph.org.uk_-_1425935.jpg)
Mae'r llyn dwfn, clir yn gartref i lawer o anifeiliaid megis, er enghraifft penhwyaid, brithyllod a llysywenod. Mae nifer o'r rhywogaethau sydd yn byw yn y llyn yn brin iawn - er enghraifft pysgod fel y gwyniad (Coregonus lavaretus) a malwen dŵr croyw brinnaf Prydain, y falwen lysnafeddog (Myxas glutinosa). Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae'r broblem o ewtroffigedd wedi datblygu yn Llyn Tegid sydd yn berygl fawr i nifer o'r rhywogaethau a geir yn y llyn.
Traddodiadau
[golygu | golygu cod]![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/45/A_group_of_children_on_the_shores_of_Llyn_Tegid_NLW3364011.jpg/220px-A_group_of_children_on_the_shores_of_Llyn_Tegid_NLW3364011.jpg)
Cysylltir y cymeriad chwedlonol Tegid Foel â'r llyn.[1] Yn ôl Chwedl Taliesin, yr oedd gwr o uchelwr yn Mhenllyn o'r enw Tegid Foel, a'i gartref oedd yn nghanol Llyn Tegid (Y Bala), a'i wraig oedd Ceridwen.[2]
Traddodiad diweddar iawn yw'r un am yr anghenfil o'r enw "Tegi" sydd yn nofio yn nyfnderau Llyn Tegid. Datblygodd y chwedl dan ddylanwad amlwg y chwedl am "Nessie" yn Loch Ness, yn yr Alban.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Oriel: Llynnoedd Eryri". BBC Cymru Fyw. 2023-11-15. Cyrchwyd 2023-11-16.
- ↑ Bromwich, Rachel (2014-11-15). Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 452. ISBN 978-1-78316-146-1.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Awyrluniau o sut mae'r dŵr yn llifo o Lyn Tegid
-
Llyn Tegid, Sir Feirionydd
-
Llyn Tegid