Aran Benllyn
Cyfieithiad | |
Iaith | Cymraeg |
Testun y llun | Yr Aran o Erw y Ddafad-ddu |
Uchder (m) | 885 |
Uchder (tr) | 2904 |
Amlygrwydd (m) | 50 |
Lleoliad | rhwng y Bala a'r Trallwng |
Map topograffig | Landranger 124 125; Explorer 23E |
Cyfesurynnau OS | SH867243 |
Gwlad | Cymru |
Dosbarthiad | Hewitt a Nuttall |
Mynydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd yw Aran Benllyn. Saif ychydig i'r gogledd o Aran Fawddwy, sydd ychydig yn uwch, 905 medr o uchder, ac i'r de o bentref Llanuwchllyn. Aran Fawddwy yw'r copa mwyaf gogleddol ar y grib sy'n rhedeg tua'r de-orllewin o gyffiniau Llanuwchllyn tua Dolgellau, sydd hefyd yn cynnwys Aran Fawddwy ac yna'n parhau tua'r gorllewin fel Cadair Idris, gyda Bwlch Oerddrws yn gorwedd rhwng dwy ran y gadwyn; cyfeiriad grid SH867243. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 835metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Gellir ei ddringo ar hyd llwybr sy'n dechrau gerllaw Llanuwchllyn. Ar un adeg bu cryn ddadlau ynglyn a mynediad yn yr ardal yma, ond erbyn hyn cytunwyd ar lwybr, er nad yw'n llwybr cyhoeddus yn swyddogol. Caiff ei enw oherwydd nad yw ymhell o ben Llyn Tegid, yn ardal Penllyn.
Cysylltir Rhita Gawr a'r mynydd. Mewn traethawd ar gewri Cymru gan Siôn Dafydd Rhys a ysgrifennodd ar ddiwedd yr 16g, dywedir i Rhita gael ei gladdu ar ben Aran Benllyn ar ôl cael ei ladd gan Arthur.
Dosbarthiad y copa[golygu | golygu cod y dudalen]
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 885m (2904tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Mawrth 2010.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o Gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'