Metr
Jump to navigation
Jump to search
Mesuriad o hyd yw'r metr (neu medr). Hwn yw'r uned sylfaenol yn y system fetrig a'r System Ryngwladol o Unedau (SI) a ddefnyddir ledled y byd yn gyffredinol ac yn wyddonol. Y symbol a ddefnyddir i gynrychioli'r metr yw m. Ceir 100 centimetr mewn 1 metr ac mae 1000 o fetrau'n gwneud 1 cilometr.
Diffiniad[golygu | golygu cod y dudalen]
Wedi diffinio maint yr eiliad, mae maint y metr yn sefydledig ar y ffaith mai 299,792,458 m/s (metr yr eiliad) ydy cyflymder golau yn fanwl.