Arolwg Ordnans

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Mapiau Arolwg Ordnans)
Arolwg Ordnans
Enghraifft o'r canlynolmenter sy'n eiddo i'r wladwriaeth, adran anweinidogol o'r llywodraeth, national mapping agency Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1791 Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolWorld Wide Web Consortium, Open Geospatial Consortium, EuroGeographics, British and Irish Committee on Map Information and Cataloguing Systems Edit this on Wikidata
PencadlysExplorer House Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.ordnancesurvey.co.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map Arolwg Ordnans Lerpwl o 1947

Mae'r Arolwg Ordnans (Saesneg: Ordnance Survey) yn cyhoeddi cyfres o fapiau awdurdodol ar gyfer Prydain Fawr i gyd, ar sawl graddfa. Ond mae'r OSNI yn cyhoeddi mapiau cyffelyb ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â'r mapiau ar bapur, mae'n nhw'n cyhoeddi'r graddfeydd mwya poblogaidd ar eu gwefan Get-a-Map, a thrwy wefannau cwmnïau eraill.

Enghraifft o Fap Arolwg Ordnans[golygu | golygu cod]

Image produced from the Ordnance Survey Get-a-map service. Image reproduced with kind permission of Ordnance Survey and Ordnance Survey of Northern Ireland Archifwyd 2005-08-10 yn y Peiriant Wayback..
(defnyddir gyda chaniatâd - credir bod rhaid ini ddefnyddio ffurf Saesneg y neges)

Mae'r enghraifft hon, sydd yn dod trwy'r gwasanaeth Get-a-Map, yn dangos rhan o swydd Caint yn Ne-ddwyrain Lloegr, ar raddfa 1:25000, sef 4 centimetr ar y map i bob cilometr ar y tir (ond gall y maint ar fonitor cyfrifiadurol fod yn wahanol, wrth gwrs). Mae'r raddfa hon yn addas i gerddwyr, ond mae graddfa llai yn well i yrrwyr ceir. TV580982 yw'r lleoliad grid yng nghanol y map.

Pethau i'w gweld yn yr enghraifft[golygu | golygu cod]

  • Mae'r map yn defnyddio'r drefn arferol am gyfeiriadau: gogledd i fyny, dwyrain i'r dde, de i lawr, a gorllewin i'r chwith.
  • Mae'r llinell goch dew yn dangos ffordd A (prif ffordd), a'r llinell felyngoch dew yn dangos ffordd B (ffordd llai bwysig). Mae'r ffyrdd bach iawn yn wynion. Byddai traffordd yn cael ei dangos gyda llinell las.
  • Mae'r llinellau melyngochion meinion yn dangos yr uchder (metrau), trwy gysylltu lleoedd â'r un uchder. Er enghraifft, pen bryn ydy Warren Hill (D.Ddn.), llechweddau ydy Pea Down (G.On.) a Crapham Down (D.On.), a chwm ydy Crapham Bottom (D.). Mae'r rhifau duon (e.e. 158) yn dangos uchder lleol.
  • Mae'r llinellau gwyrddion byrion yn dangos llwybrau troed, ac mae'r llinellau gwyrddion hirion yn dangos llwybrau ceffyl (caniateir cerddwyr a beiciau hefyd).
  • Mae'r llinellau duon meinion yn dangos cloddiau rhwng y caeau.
  • Mae'r ardaloedd gwyrddion (yn y dwyrain) yn dangos coed, a fe ddefnyddir yma symbol coed collddail.
  • Dangosir ar y map hefyd clwb golff (symbol golff, G.), maes parcio (llythyren P, Dn.), hostel ieuenctid (triongl coch, G.Dn.), piler triongli (triongl glas golau, Dn.), a thai (e.e. G.Dn.).
  • Mae'r hen lythyrennau o'r geiriau Cross Dyke i'r dwyrain yn dangos lle gyda diddordeb hanesyddol.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]