Gogledd Iwerddon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gogledd Iwerddon
Coat of Arms of Northern Ireland.svg
Tuaisceart Éireann
Northern Ireland
Ulster Banner.svg
Arwyddair Quis separabit?
Math Gwledydd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Prifddinas Belffast Edit this on Wikidata
Poblogaeth 1,852,168 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd 1921 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Nawddsant Sant Padrig Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Iwerddon Edit this on Wikidata
Arwynebedd 14,130 ±1 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Gweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 54.59°N 5.84°W Edit this on Wikidata
Cod SYG N92000002 Edit this on Wikidata
GB-NIR Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaethol Cynulliad Gogledd Iwerddon Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Gogledd Iwerddon Edit this on Wikidata
LocationNorthernIreland.svg
Arian Punt sterling Edit this on Wikidata

Rhanbarth o'r Deyrnas Unedig yw Gogledd Iwerddon (Gwyddeleg: Tuaisceart Éireann, Saesneg: Northern Ireland; Sgoteg Wlster: Norlin Airlann), yng ngogledd-ddwyrain Iwerddon. Mae'n cynnwys chwech o 32 sir ynys Iwerddon - chwech o naw sir talaith Wledd neu Wlster. Mae iddi arwynebedd o 14,139 km² (5,459 milltir sgwâr), ac mae ganddi boblogaeth o 1,810,863 (Cyfrifiad 2011) (1,685,267, Cyfrifiad 2001). Belffast yw'r brifddinas.

Mae Gogledd Iwerddon yn cael ei llywodraethu gan Gynulliad Gogledd Iwerddon, yn Stormont, ac Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon sy'n atebol i lywodraeth San Steffan.

Fodd bynnag, hyd at 1800, roedd yr ynys gyfan (y Gogledd a'r De) yn un wlad - 'Teyrnas Iwerddon' - hyd nes i Loegr ei huno o dan Ddeddf Uno 1801 i'r hyn a alwyd yn 'Deyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon'. Wedi cread y Dalaith Rydd Wyddelig (Saorstat Eireann) ym 1922, allan o 26 o siroedd Iwerddon, parhaodd chwe sir y gogledd yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a chafodd y wladwriaeth ei hail-enwi yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym 1927.

Yn ei gyfieithiad o un o ganeuon Tommy Makem, canodd Dafydd Iwan am y 'Pedwar Cae' (An Cheathrú Gort Glas). Gogledd Iwerddon ydyw'r pedwerydd cae - y cae sydd yn nwylo Lloegr, "ddaw eto yn rhydd medd hi."

Yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae enw'r rhanbarth ei hun ac rhai enwau lleoedd o'i fewn yn bwnc dadleuol. Mae llawer yn dibynnu ar safbwyntiau gwleidyddol. Yr enghraifft enwocaf efallai yw dinas Derry/Londonderry, gyda'r ffurf Derry (Saesneg) neu Doire/Doire Cholm Chille (Gwyddeleg) yn cael ei defnyddio gan genedlaetholwyr Gwyddelig a Londonderry gan yr Unoliaethwyr.

'Gogledd Iwerddon' yw'r enw swyddogol ond mae nifer o Unoliaethwyr yn a'u cefnogwyr yn dal i defnyddio'r enw Ulster (Ulaidh). Ar y llaw arall, mae cenedlaetholwyr a gweriniaethwyr yn tueddu i gyfeirio at y rhanbarth fel 'Y Gogledd' (The North/North of Ireland) neu'r 'Chwe Sir' (Six Counties.

Unoliaethwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ulster (Ulaidh) yw'r enw hanesyddol am dalaith Wyddelig Wlster, gyda chwech o'i naw sir yn gorwedd yng Ngogledd Iwerddon. Mae cenedlaetholwyr yn gwrthod defnyddio'r enw i gyfeirio at Ogledd Iwerddon ond mae'r term "Ulster" yn cael ei defnyddio'n aml gan yr Unoliaethwyr a'r wasg Brydeinig i gyfeirio at Ogledd Iwerddon. Fe'i gwelir hefyd mewn enwau fel Radio Ulster, RUC, Ulster Unionist Party ac Ulster Volunteer Force (grwp paramilwrol).
  • Y Dalaith (The Province / An Chúige) yw'r enw hanesyddol am dalaith Wyddelig Wlster ond fe'i defnyddir gan Unoliaethwyr ac eraill fel term am Ogledd Iwerddon. Yn ôl canllawiau'r BBC, mae "the province" yn dderbyniol ond dydy "Ulster" ddim. Mae'n argymell peidio defnyddio'r gair "Prydeinig" ("British") i gyfeirio at y bobl ond yn hytrach i ddefnyddio'r term niwtral "pobl Gogledd Iwerddon" ("people of Northern Ireland", a'r term "tir mawr" "mainland" wrth gyfeirio at Brydain Fawr mewn perthynas â Gogledd Iwerddon[1] Nid wy'r termau hyn yn dderbyniol gan y gymuned weriniaethol.

Cenedlaetholwyr/Gweriniaethwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Defnyddir sawl term gan weriniaethwyr a chenedlaetholwyr i gyfeirio at Ogledd Iwerddon:

  • North of Ireland (Tuaisceart na hÉireann) - term sydd ddim yn cyfieithu i'r Gymraeg yn iawn ac sy'n pwysleisio fod y rhanbarth yn rhan o Iwerddon yn hytrach na'r DU.
  • Gogledd-ddwyrain Iwerddon (North-East Ireland / Oirthuaisceart Éireann). Amrywiad ar yr uchod, llawer llai cyffredin.
  • Y Chwe Sir (The Six Counties / na Sé Chontae) - term a ddefnyddir gan weriniaethwyr, e.e. Sinn Féin. Cyfeirir at Weriniaeth Iwerddon fel 'y 26 Sir' (Twenty-Six Counties)[2] Dadleuir fod defnyddio enw swyddogol y rhanbarth yn gyfystyr â derbyn ei fod yn perthyn i'r DU.
  • The Occupied Six Counties.[3]
  • British-Occupied Ireland. Fel Occupied Six Counties, defnyddir hyn gan weriniaethwyr sy'n gwrthwynebu Cytundeb Dydd Gwener y Groglith (Good Friday Agrrement).[4]
  • Fourth Green Field (An Cheathrú Gort Glas). O'r gân Four Green Fields gan Tommy Makem.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]