Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India
![]() | |
![]() | |
Arwyddair | In tutela nostra Limuria ![]() |
---|---|
Math | Tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig ![]() |
Prifddinas | Camp Thunder Cove ![]() |
Poblogaeth | 3,000 ![]() |
Anthem | God Save the King ![]() |
Cylchfa amser | UTC+06:00 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 6°S 71.5°E ![]() |
![]() | |
Arian | doler yr Unol Daleithiau, punt sterling ![]() |
Tiriogaeth dramor y Deyrnas Unedig a leolir yng Nghefnfor India yw Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India (Saesneg: British Indian Ocean Territory (BIOT)). Mae'n cynnwys chwech o atolau Ynysfor y Chagos â mwy na 1000 o ynysoedd unigol.
Diego Garcia yw'r ynys fwyaf, sydd heddiw yn faes milwrol i'r Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau. Wedi i'r boblogaeth frodorol, y Chagossiaid, gael ei halltudio yn y 1960au, personél milwrol Prydeinig ac Americanaidd a chontractwyr yw'r unig drigolion.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]
Lleolir Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India rhyw 1,770 km i ddwyrain Mahé, prif ynys y Seychelles. Ynysfor o 55 o ynysoedd yw BIOT ac mae'n ymestyn dros 54,400 km² o Gefnfor India. Mae gan yr ynysoedd eu hunain arwynebedd tir o 60 km² yn unig, ac arfordir 698 km. Diego Garcia yw'r ynys fwyaf a mwyaf ddeheuol, a ganddi arwynebedd 44 km². Poeth a llaith yw hinsawdd yr ynysoedd a gwastad ac isel yw'r tir.
Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]
Statws cyfansoddiadol[golygu | golygu cod]
Diffinnir statws cyfansoddiadol BIOT gan Orchymyn Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India (Cyfansoddiad) 2004 sy'n rhoi Comisiynydd Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India yr holl rym dros ddeddfu yn y Diriogaeth. Mae cytundebau rhwng y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau yn rheoli materion parthed defnydd y Diriogaeth er amddiffyn, megis awdurdod dros bersonél milwrol Americanaidd.
Fe ddyfarnwyd gan Lys Cyfiawnder Rhyngwladol yn 2019 bod rheolaeth y Ddeyrnas Unedig dros Ynysoedd Chagos yn anghyfreithlon.[1]
Cysylltiadau tramor[golygu | golygu cod]
Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am gysylltiadau tramor BIOT. Mae BIOT yn cysylltu â San Steffan trwy Gyfarwyddiaeth Tiriogaethau Tramor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
Economi[golygu | golygu cod]
Oherwydd absenoldeb brodorion yr ynysoedd, nid oes gweithgarwch economaidd, diwydiannol, nac amaethyddol yn y Diriogaeth bellach. Cyflawnir gwaith adeiladu ar y canolfan milwrol yn Diego Garcia gan bersonél milwrol Prydeinig ac Americanaidd a gweithwyr sifil ar gontract, y mwyafrif ohonynt o Mawrisiws a'r Philipinas.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
|