Llys Cyfiawnder Rhyngwladol
Gwedd
Palas Heddwch, Den Haag, pencadlys y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol | |
| Enghraifft o: | llys rhyngwladol, prif ran o'r Cenhedloedd Unedig |
|---|---|
| Rhan o | system y Cenhedloedd Unedig, Y Cenhedloedd Unedig |
| Dechrau/Sefydlu | 1945 |
| Lleoliad | Den Haag |
| Pennaeth y sefydliad | President of the International Court of Justice |
![]() | |
| Rhagflaenydd | Permanent Court of International Justice |
| Rhiant sefydliad | Y Cenhedloedd Unedig |
| Pencadlys | Palas Heddwch |
| Enw brodorol | International Court of Justice |
| Rhanbarth | Den Haag |
| Gwefan | https://icj-cij.org/home, https://icj-cij.org/ar, https://icj-cij.org/es, https://icj-cij.org/ru, https://icj-cij.org/ch |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03vls |
Prif lys barn y Cenhedloedd Unedig yw'r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol (Saesneg: International Court of Justice, Ffrangeg: Cour internationale de Justice). Ei bencadlys yw'r Palas Heddwch yn Den Haag yn yr Iseldiroedd.
Sefydlwyd y llys gan Siarter y Cenhedloedd Unedig yn 1945, a dechreuodd ar ei waith yn 1946. Ei brif waith yw barnu ar faterion cyfreithiol a gyflwynir iddo gan wahanol wledydd ac i roi barn ar ymholiadau cyfreithiol gan wahanol sefydliadau. Mae'n cynnwys 15 barnwr a etholir am gyfnod o naw mlynedd gan y Cenhedloedd Unedig. Cynhelir etholiadau bob tair blynedd, gyda thraean o'r aelodaeth yn ymddeol neu'n ceisio ail-etholiad bob tro.
