Den Haag

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hofvijver a Senedd yr Iseldiroedd

Canolfan llywodraeth a senedd yr Iseldiroedd a thrigfan Brenin yr Iseldiroedd yw Den Haag ("Cymorth – Sain" ynganiad Iseldireg ) neu ’s-Gravenhage (Cymraeg hefyd Yr Hâg). Mae hefyd yn brifddinas talaith (provincie) Zuid-Holland (De Holland). Gyda phoblogaeth o tua 520,000 a chyfanswm o dros filiwn os yn cynnwys y cymunedau ar y cyrion, hon yw'r drydedd ddinas fwyaf yn y wlad. Er bod llywodraeth a senedd yr Iseldiroedd wedi'u lleoli yno, nid prifddinas yr Iseldiroedd yw Den Haag. Y brifddinas yw Amsterdam.

Yn Den Haag y mae pencadlys y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol.

Hanes y ddinas[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd Den Haag yn 1230 pan brynwyd y tir gan yr Iarll Floris IV o Holand i'w ddefnyddio fel preswylfa ar gyfer hela. Gerllaw y tir yr oedd y pwll sydd bellach yn cael ei alw'n Hofvijver. Yn 1248, penderfynodd ei fab a'i olynydd William II, Brenin y Romans, godi palas yno a ddaeth i'w adnabod yn ddiweddarach fel y Binnenhof (Llys Mewnol). Bu farw William yn 1256 cyn y cwblhawyd y gwaith ar y palas, tasg a gyflawnwyd yn rhannol gan ei fab Floris V. Mae'r Ridderzaal (Neuadd y Marchogion) yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer anerchiad blynyddol y Brenin. Mae Den Haag wedi'i ddefnyddio fel canolfan weinyddol gan Ieirll Holand ers y 13eg ganrif.

Mewn siarter a grewyd yn 1242 y ceir y cyfeiriad cynharaf at y gymuned fel Haga. Erbyn y 15fed ganrif, roedd yn cael ei alw'n des Graven hage, sy'n golygu 'Coed yr Iarll', ac o'r 17eg ganrif galwyd y ddinas yn 's-Gravenhage. Prin y defnyddir yr enw hwnnw erbyn hyn a 'Den Haag' a welir yn bennaf.

O 1588 ymlaen, wedi i'r wlad gael ei rhyddhau o reolaeth Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, Den Haag oedd sedd llywodraeth Gweriniaeth yr Iseldiroedd.

Yn 1806 y rhoddwyd hawliau dinesig i Den Haag, a hynny gan Napoleon Bonaparte. Wedi'r rhyfeloedd Napoleonaidd, cyfunwyd Gwlad Belg a'r Iseldiroedd fel Teyrnas Unedig yr Iseldiroedd gyda Brwsel ac Amsterdam yn brifddinas am gyfnodau o ddwy flynedd am yn ail. Er hynny, arhosodd y llywodraeth yn Den Haag, ac felly y bu wedi i Wlad Belg a'r Iseldiroedd wahanu yn 1830. Tyfodd Den Haag yn gyflym wedi 1850, wrth i ddylanwad y llywodraeth ar gymdeithas yr Iseldiroedd gynyddu. Adeiladwyd nifer o'i strydoedd er mwyn cartrefu'r gweision sifyl a gyflogid gan y Llywodraeth a'r gweinyddwyr oedd yn ymddeol o'u gwaith yng ngweinyddiaeth trefedigaethau'r wlad yn y dwyrain.

Difrodwyd y ddinas yn wael yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Adeiladwyd Wal yr Iwerydd trwy'r ddinas a dymchwelwyd rhan o'r ddinas gan y gyfundrefn Naziaidd. Ar 3 Mawrth 1945, bomiodd y Llu Awyr Brenhinol ardal Bezuidenhout trwy ddamwain. Roedd yn targedu rocedi V-2 oedd wedi eu lleoli ym mharc Haagse Bos gerllaw, ond gollyngwyd y bomiau ar ardal boblog a hanesyddol o'r ddinas. Achoswyd difrod eang a lladdwyd 511 o bobl.

Am gyfnod yn dilyn y Rhyfel, Den Haag oedd maes adeiladu mwyaf Ewrop. Atgyweirwyd a thyfodd y ddinas yn gyflym, ac roedd 600,000 o bobl yn byw yno erbyn 1965.

Adeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Amgueddfa Escher
  • Gemeentemuseum (amgueddfa celf)
  • Koninklijke Schouwburg (theatr)
  • Mauritshuis
  • Museon
  • Palas Hedd
  • Paleis Noordeinde (palas brenhinol)

Pobl o'r Haag[golygu | golygu cod y dudalen]


Flag of the Netherlands.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Iseldiroedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato