M. C. Escher

Oddi ar Wicipedia
M. C. Escher
GanwydMaurits Cornelis Escher Edit this on Wikidata
17 Mehefin 1898 Edit this on Wikidata
Ljouwert Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mawrth 1972 Edit this on Wikidata
Laren Edit this on Wikidata
Man preswylLjouwert, Arnhem, Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrenhiniaeth yr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol ar gyfer Pensaernïaeth a Chelfyddydau Addurniadol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwneuthurwr printiau, darlunydd, cynllunydd stampiau post, arlunydd, arlunydd graffig, ffotograffydd, drafftsmon, lithograffydd, cerfiwr coed, cynllunydd, ceramics designer, artist murluniau, cerflunydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amStill Life with Spherical Mirror, Waterfall, Ascending and Descending Edit this on Wikidata
Arddullarlunydd, peintio lluniau anifeiliaid, celf haniaethol, figure, celf tirlun, dinaswedd, bywyd llonydd, hunanbortread Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadmathemateg, Leonardo da Vinci, Albrecht Dürer, Hieronymus Bosch Edit this on Wikidata
Mudiadcelf fodern Edit this on Wikidata
TadGeorge Arnold Escher Edit this on Wikidata
MamSara Adriana Gleichman Edit this on Wikidata
PriodJetta Umiker Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd Orange-Nassau Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.mcescher.com/ Edit this on Wikidata

Roedd Maurits Cornelius Escher (17 Mehefin 189827 Mawrth 1972), neu M. C. Escher yn arlunydd graffigol o'r Iseldiroedd a oedd yn adnabyddus am weithiau ar ffurf torluniau pren, lithograffiau a mezzotints.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd ef yn Leeuwarden, Friesland, yn fab ieuengaf i'r peiriannydd sifyl George Arnold Escher a'i ail wraig, Sara Gleichman. Pan oedd tua 5 oed, symudodd y teulu i Arnhem, ac yno y derbyniodd ei addysg tan 1918. Câi ei adnabod gan ei deulu wrth yr enw "Mauk", ac oherwydd gwendid ei iechyd, cafodd ei anfon i ysgol arbennig pan oedd yn 7 oed. Rhagorai ar ddarlunio, ond mae'n debyg mai gwan oedd ei berfformiad mewn meysydd eraill. Derbyniodd wersi gwaith coed a phiano tan oedd yn 13 oed.

Yn 1918, aeth Escher i Goleg Technegol Delft, ac yna, rhwng 1919 a 1922, i Ysgol Bensaernïaeth a Chelfyddyd Addurniadol Haarlem. Yno y datblygodd ei sgiliau darlunio a chreu torluniau pren. Bu'n astudio o dan yr arlunydd graffigol Samuel Jessurun de Mesquita.

Gwaith[golygu | golygu cod]

Defnyddiai Escher wrthrychau a thechnegau mathemategol i archwilio syniadau ynghylch annherfynoldeb, adlewyrchiad, cymesuredd a pherspectif. Er i Escher ddweud nad oedd ganddo allu mathemategol, roedd mewn cysylltiad â'r mathemategwyr George Polya, Roger Penrose, Harold Coxeter a'r crystalograffydd Friedrich Haag.

Yn gynnar yn ei yrfa, cafodd Escher ei ysbrydoli gan fyd natur, ac astudiodd drychfilod, tirluniau a phlanhigion. Yn 1922, teithiodd i rannau o Eidal a Sbaen, a thrwy astudio pensaernïaeth, datblygodd ddiddordeb mewn mathemateg. Bu'n byw yn Rhufain rhwng 1923 a 1935. Yno y cyfarfu ei wraig Jetta Umiker.

Symudodd Escher a'i deulu i Château-d'Œx yn y Swistir yn 1935, ac yna i Uccle ar gyrion Brwsel yng Ngwlad Belg yn 1937. Bu raid symud eto yn 1941 oherwydd y Rhyfel, y tro hwn i Baarn yn yr Iseldiroedd. Creodd rai o'i weithiau mwyaf adnabyddus yn ystod y cyfnod hwnnw rhwng 1941 a 1970.

Cafodd Escher ei symud i gartref preswyl yn Laren yn 1970, ac yno y bu farw yn 73 oed ar 27 Mawrth 1972. Mae wedi'i gladdu yn y fynwent newydd yn Baarn.

Daeth ei gelf yn adnabyddus ymhlith gwyddonwyr a mathemategwyr, ac mewn diwylliant poblogaidd. Ymddangosodd ei waith ar gloriau llyfrau ac albymau, yn ogystal â phapurau technegol.