Leonardo da Vinci
Leonardo da Vinci | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Leonardo di ser Piero da Vinci ![]() 15 Ebrill 1452 ![]() Anchiano ![]() |
Bu farw | 2 Mai 1519 ![]() Clos Lucé, Amboise ![]() |
Man preswyl | Fenis, Fflorens, Rhufain, Fflorens, Milan ![]() |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Fflorens ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, peiriannydd, seryddwr, athronydd, anatomydd, mathemategydd, cerflunydd, polymath, pensaer, peiriannydd sifil, diplomydd, dyfeisiwr, cyfansoddwr, bardd, cerddor, ffisegydd, ffisiolegydd, botanegydd, cemegydd, söolegydd, cartwnydd dychanol, gwyddonydd ![]() |
Swydd | llysgennad ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Addoliad y Doethion, Morwyn Fair y Creigiau, Mona Lisa, Y Swper Olaf, Y Feinir â'r Carlwm, Dyn Vitruvius, Cyfarchiad Mair, Sant Sierôm yn yr Anialwch, Y Forwyn a'r Plentyn gyda'r Santes Ann, Ioan Fedyddiwr, Leonardo's aerial screw, Portrait of Isabella d'Este, Head of a Woman, Salvator Mundi ![]() |
Arddull | portread, portread (paentiad), paentiadau crefyddol ![]() |
Mudiad | yr Uchel Ddadeni ![]() |
Tad | Ser Piero da Vinci ![]() |
Mam | Caterina di Meo Lippi ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Arlunydd, dyfeisiwr, cerddor ac athrylith cyffredinol oedd Leonardo da Vinci (15 Ebrill 1452 – 2 Mai 1519). Mae Leonardo yn enwocaf am beintiadau maestrolgar megis y Mona Lisa a'r Swper Olaf ac am ei ddyfeisiadau sydd yn rhagflaenwyr ar gyfer technoleg modern.
Bywyd a gyrfa cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd Leonardo ei eni mewn ffermdy ger pentref bychan Anchiano, tua 3 km o dref Vinci yn yr Eidal. Roedd yn blentyn gordderch i gyfreithiwr ifanc o'r enw Ser Piero da Vinci a, mae'n debyg, merch gwerin o'r enw Caterina. Tyfodd Leonardo i fyny gyda'i dad yn Fflorens lle dechreuodd dynnu lluniau a peintio, wedi'i ysbrydoli gan natur a thirwedd ardal Toscana. Roedd ei luniau cynnar o ansawdd mor uchel dechreuodd ei aprentisiaeth gyda'r peintiwr a cherfluniwr Andrea del Verrocchio yn 14 mlwydd oed.
Y peintiad cyntaf y gallwn fod yn sicr bod Leonardo wedi cyfrannu ato yng ngweithdy Verrocchio oedd Bedydd Crist [1]. Cyfraniad Leonardo oedd yr angel ar y chwith, sydd yn fwy real na phrif gymeriadau'r llun, sef Iesu Grist a Ioan Fedyddiwr, a'u peintiwyd gan ei athro. Yn ôl y chwedl, ni fentrodd Verrocchio beintio byth eto ar ôl i dalent ei ddisgybl ragori ar ei allu ei hunan.
Y Gwyddonydd a'r dyfeisydd[golygu | golygu cod y dudalen]
Anatomi[golygu | golygu cod y dudalen]
Dechreuodd ei brentisiaeth ffurfiol mewn anatomi wrth draed Andrea del Verrocchio, ei athro a fynnodd fod pob un o'i ddisgyblion yn astudio anatomi cyn mynd ati i ddysgu arlunio. Daeth da Vinci'n feistr ar anatomi gweledol gan ymarfer y cyhyrau, y tendonau a ffurfiau eraill y corff.
Oherwydd ei lwyddiant fel arlunydd, cafodd yr hawl i weithio ar gyrff marw yn Ysbyty Santa Maria Nuova yn Florence, Milan a Rhufain, gan agor y cyrff i weld sut roedd y cyhyrau ac organau mewnol yn gorwedd ac yn gweithio. Gweithiodd gyda meddyg (Marcantonio della Torre) rhwng 1510 a 1511 gan gydlunio papur ar anatomi a oedd yn cynnwys dros 200 o'i luniau. Fe'i cyhoeddwyd yn 1680 (161 blwyddyn wedi'i farwolaeth).
Y Dyfeisydd[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn ystod ei oes, cafodd Leonardo ei barchu'n fawr fel peiriannydd galluog iawn. Mewn llythyr at Ludovico il Moro honodd y gallai greu pob math o beiriannau i ymosod ac i amddiffyn tref. Pan ddihangodd i Fenis yn 1499 cafodd waith fel peiriannydd i gynllunio amddiffynfeydd i'r ddinas, rhag ymosodiadau. Mae ei bapurau'n orlawn o bob math o ddyfeiadau a oedd o flaen eu hamser ac sy'n cynnwys offerynau cerdd newydd, y pwmp hydrolig, cannon a weithiau gyda stem a'r hofrenydd.
Ei waith enwocaf[golygu | golygu cod y dudalen]
Cysylltiau Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Art Gallery - Leonardo da Vinci