Llyfrgell Gwladwriaeth Rwsia
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Russian State Library)
| Math | llyfrgell genedlaethol, llyfrgell gyhoeddus, tirnod, archif |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Vladimir Lenin |
| Agoriad swyddogol | 1862 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Moscfa |
| Sir | Arbat District, Moscfa |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 55.751732°N 37.608996°E |
| Cod post | 634003 |
![]() | |
Un o ddwy lyfrgell genedlaethol Rwsia yw Llyfrgell Gwladwriaeth Rwsia (Rwseg: Российская государственная библиотека), a leolir ym Moscfa. (Ni ddylid ei chymysgu â Llyfrgell Genedlaethol Rwsia, a leolir yn St Petersburg.) Delir dros 43 miliwn o eitemau yn Llyfrgell y Wladwriaeth, a sefydlwyd ym 1862.[1] Yn y cyfnod Sofietaidd fe'i gelwid yn Lyfrgell Gwladwriaeth yr UGSS V. I. Lenin[2] ac mae dal ganddi y llysenw poblogaidd ‘Leninka’ o’r dyddiau hynny.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Russian State Library. Llyfrgell Gwladwriaeth Rwsia. Adalwyd ar 15 Tachwedd 2014.
- ↑ (Saesneg) Russian State Library. Made in Russia. Adalwyd ar 15 Tachwedd 2014.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Rwseg) Gwefan swyddogol
