Donatello
Donatello | |
---|---|
![]() Cerflun o Donatello tu allan i'r Uffizi, Fflorens | |
Ganwyd | Donato di Niccolò di Betto Bardi ![]() 1386 ![]() Fflorens ![]() |
Bu farw | 13 Rhagfyr 1466 ![]() Fflorens ![]() |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Fflorens ![]() |
Galwedigaeth | cerflunydd, arlunydd ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Beddrod Giovanni Pecci, Putti Reggicandela, Dafydd, Croeslun Santa Croce, Zuccone, Bearded Head, Crucifixion relief, Saint Massimo and Saint Prosdocimo, Forzori Altar, Martelli coat of arms, Donatello's Marzocco replica, Replica of Protome, Winged Putto with a Fantastic Fish ![]() |
Arddull | celfyddyd grefyddol, portreadaeth farchogol, portread, paentiad mytholegol ![]() |
Mudiad | y Dadeni Cynnar ![]() |
Arlunydd a cherflunydd o'r Eidal oedd Donato di Niccolò di Betto Bardi, mwy adnabyddus fel Donatello (c. 1386 - 13 Rhagfyr, 1466).
Ganed ef yn Fflorens tua 1386, yn fab i Niccolo di Betto Bardi. Bu'n gweithio fel gôf aur yn Rhufain am gyfnod. Dychwelodd i Fflorens, a chynorthwyodd Lorenzo Ghiberti gyda cherfluniau o'r proffwydi ar gyfer y Battistero di San Giovanni. Yn 1409-1411, ef oedd yn gyfrifol am y cerflun enfawr o Sant Ioan Efengylwr, ac yn 1411-1413 bu'n gweithio ar gerflun o Sant Marc.
Rhwng 1415 a 1426, gwnaeth bum cerflun i'r campanile Donatello Santa Maria del Fiore yn Fflorens, a adwaenir fel y Duomo. Rhwng 1425 a 1427, bu'n gweithio gyda Michelozzo ar gerflun ar fedd y Gwrth-bab Ioan XXIII.

Tua 1430, cafodd gomisiwn gan Cosimo de' Medici i weneud y ceflun o'r brenin Dafydd, yn awr yn y Bargello; hwn yw gwaith enwocaf Donatello. Alltudiwyd ef o Fflorens am gyfnod, a bu yn Rhufain hyd 1433, pan ddychwelodd i Fflorens, lle bu'n gyfrifol ,am lawer o weithiau eraill. Yn 1443, galwyd ef i Padova gan etifeddion y condottiero enwog Erasmo da Narni, oedd newydd farw, i wneud cerflun ohono. Daeth y cerflun, o Erasmo ar gefn ceffyl, yn batrwm i lawer o gerfluniau cyffelyb.
Dychwelodd Donatello i Fflorens yn 1453, a bu farw yno yn 1466. Claddwyd ef yn y Basilica San Lorenzo.