Neidio i'r cynnwys

Rhufain

Oddi ar Wicipedia
Rhufain
Mathtref ar y ffin, abolished municipality in Italy, cyrchfan i dwristiaid, metropolis, y ddinas fwyaf, tref goleg, dinas fawr, cymuned, prifddinas cenedl Edit this on Wikidata
LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Roma.wav, Pl-Rzym.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,748,109 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • c. 21 Ebrill 753 CC (wedi 814 CC, cyn 747 CC, founding of Rome, tua) Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethRoberto Gualtieri Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iParis Edit this on Wikidata
NawddsantSant Pedr, yr Apostol Paul Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Eidaleg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd1,287.36 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr21 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Tiber, Aniene, Môr Tirrenia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.8931°N 12.4828°E Edit this on Wikidata
Cod post00118–00199 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCyngor Dinas Rhufain Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Rhufain Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethRoberto Gualtieri Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganRomulus, Remus Edit this on Wikidata

Prifddinas yr Eidal yw Rhufain ("Cymorth – Sain" ynganiad : Roma yn Eidaleg a Lladin). Saif yng ngorllewin canolbarth yr Eidal ar lan Afon Tiber tua 30 km o lan Môr Tirrenia. Lleolir Dinas y Fatican, sef sedd y Pab a'r Eglwys Gatholig Rufeinig mewn clofan yng nghanol y ddinas; hi yw gwlad leia'r byd[1]. Mae gan y brifddinas boblogaeth o dros 2,748,109 (1 Ionawr 2023)[2] ac arwynebedd o 1,285 km2 (496.1 mi sg).[3] Y brifddinas ehangach, neu 'Rhufain Fwayf', a elwir hefyd yn 'Rhufain Fetropolitan', gyda'i phoblogaeth o tua 4,227,059 (Ionawr 2023)[4], yw dinas fetroploitan fwyaf yn yr Eidal; cafodd ei sefydlu fel uned weinyddol ar 1 Ionawr 2015. Ceir 20 o ardaloedd gweinyddol yn yr Eidal, a saif Rhufain o fewn ardal Lazio. Yn y 2020au dinas Rhufain oedd y drydedd ddinas fwyaf poblog yn yr Undeb Ewropeaidd yn ôl poblogaeth o fewn terfynau dinasoedd.

Fe'i galwyd gyntaf yn "Ddinas Dragwyddol" (Lladin: Urbs Aeterna; Eidaleg: La Città Eterna) gan y bardd Rhufeinig Tibullus yn 1g CC, a defnyddiwyd yr enw hefyd gan Ovid, Virgil, a Livy. Gelwir Rhufain hefyd yn "Caput Mundi" (Prifddinas y Byd).[5] Yn ystod ei hanes hir bu Rhufain yn brifddinas ar y Deyrnas Rufeinig, y Weriniaeth Rufeinig, a'r Ymerodraeth Rufeinig.[6][7]

Yn ôl y chwedl sefydlwyd y dref gan Romulus, gefaill Remus ar 21 Ebrill, 753 C.C., a laddodd ei frawd Remus yn ddiweddarach. Y dyddiad hwn yw sylfaen y Calendr Rhufeinig a Chalendr Iŵl (Ab urbe condita). Roedd Romulus a Remus yn blant i'r duw Mawrth a chawsant eu magu gan fleiddast (yn Eidaleg, La Lupa Capitolina).[8]

Sefydlwyd Rhufain ar Fryn yr Haul (sef Bryn Palatîn), a ehangwyd i gynnwys Saith Bryn Rhufain: Bryn Palatîn, Bryn Aventîn, Bryn Capitolîn, Bryn Quirinal, Bryn Viminal, Bryn Esquilîn a Bryn Caelian. Enwyd y rhain ar ôl y lleuad, Mercher, Gwener, Mawrth, Iau a Sadwrn.

Mae amffitheatr y Colosseum a theml y Pantheon ymhlith adeiladau enwocaf y ddinas. Daw'r Circus Maximus a'r Domus Aurea, plasty'r ymerawdwr Nero, hefyd o gyfnod yr Ymerodraeth. Ceir nifer o symbolau o ddinas Rhufain, gan gynnwys yr Eryr Ymerodrol, Y Fleiddast Gapitolinaidd a'r llythrennau SPQR, sydd yn sefyll am senatus populusque Romanus (senedd a phobl Rhufain), i'w gweld ledled y ddinas hyd heddiw.

Hanes cynnar

[golygu | golygu cod]

Er y darganfuwyd tystiolaeth archaeolegol o aneddiadau dynol yn ardal Rhufain oddeutu 12,000 o flynyddoedd yn ôl (CP), mae'r haen drwchus o bridd a mater llawer iau yn cuddio'r safleoedd Hen Oes y Cerrig (Paleolithig) ac Oes Newydd y Cerrig (Neolithig).[8] Mae tystiolaeth o offer carreg, crochenwaith ac arfau cerrig yn tystio i oddeutu 10,000 o flynyddoedd o bresenoldeb dynol. Cafwyd sawl cloddiad archaeolegol sy'n cefnogi'r farn bod Rhufain wedi tyfu o aneddiadau bugeiliol ar Fryn Palatine a adeiladwyd uwchben ardal ble mae'r Fforwm Rhufeinig heddiw. Rhwng diwedd yr Oes Efydd a dechrau'r Oes Haearn, roedd pentref ar ben pob bryn rhwng y môr a'r Capitol (ar Fryn Capitol, ceir pentref a ddyddiwyd i'r 14g CC).[9]

Brenhiniaethau a gweriniaeth

[golygu | golygu cod]

Ar ôl sefydlu'r ddinas gan Romulus, rheolwyd Rhufain am gyfnod o 244 mlynedd gan system frenhiniaethol, i ddechrau gyda brenhinoedd o dras Ladin a Sabine, yn ddiweddarach gan frenhinoedd Etrwscaidd. Trosglwyddwyd yn ôl y traddodiad saith brenin: Romulus, Numa Pompilius, Tullus Hostilius, Ancus Marcius, Tarquinius Priscus, Servius Tullius a Lucius Tarquinius Superbus.[10]

Palasau hynafol, ymerodrol-Rufeinig y Palatino, cyfres o balasau sydd wedi'u lleoli ym Mryn y Palatino, yn amlwg yn mynegi pŵer a chyfoeth yr ymerawdwyr o Augustus tan y 4g.

Yn 509 CC, diarddelodd y Rhufeiniaid y brenin olaf o'u dinas a sefydlu gweriniaeth oligarchig. Yna cychwynnodd Rhufain gyfnod a nodweddir gan frwydrau mewnol rhwng uchelwr a'r werin (neu'r 'plebeiaid', sef tirfeddianwyr tlawd), a chan ryfela cyson yn erbyn pobl o ganol yr Eidal: Etruscans, Latins, Volsci, Aequi, a Marsi.[11] Ar ôl gorchfygu Latium, arweiniodd Rhufain sawl rhyfel (yn erbyn y Gâliaid, Osci-Samniaid a threfedigaeth Roegaidd Taranto, ynghyd â Pyrrhus, brenin Epirus) a chanlyniad hyn i gyd oedd concwest penrhyn yr Eidal, o'r ardal ganolog hyd at Magna Graecia.

Yn y 3 a'r 2g CC, sefydlwyd tra-arglwyddiaeth Rhufeinig dros Fôr y Canoldir a'r Balcanau, trwy'r tri Rhyfel Pwnig (264–146 CC) a ymladdwyd yn erbyn dinas Carthago a'r tri Rhyfel Macedoneg (212–168 CC) yn erbyn Macedonia.[12] Sefydlwyd y taleithiau Rhufeinig cyntaf ar yr adeg hon: Sisili, Sardinia a Corsica, Hispania, Macedonia, Achaea ac Affrica.[13]

Yn ail hanner yr 2g CC ac yn ystod y 1g CC bu gwrthdaro dramor ac yn fewnol. Wedi i'r ymgais i ddiwygio-cymdeithasol Tiberius a Gaius Gracchus fethu, ac wedi'r rhyfel yn erbyn Jugurtha,[14] cafwyd rhyfel cartref cyntaf rhwng Gaius Marius a Sulla.[14] Yna, cafwyd gwrthryfel enfawr gan y caethweision o dan Spartacus,[15][15] ac yna sefydlu'r Triwriaeth (Triumvirate) cyntaf gyda Cesar, Pompey a Crassus.[15]

Gwnaeth concwest Gâl y Cesar yn hynod bwerus a phoblogaidd, ac arweiniodd hyn at ail ryfel cartref yn erbyn y Senedd a Pompey. Ar ôl ei fuddugoliaeth, sefydlodd Cesar ei hun fel unben am oes.

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Er bod canol y ddinas tua 24 cilomedr (15 milltir) i mewn i'r tir o'r Môr Tirrenia, mae tiriogaeth y ddinas yn ymestyn i'r lan, lle mae ardal de-orllewinol Ostia. Mae uchder rhan ganolog Rhufain yn amrywio o 13 metr (43 tr) uwch lefel y môr (ar waelod y Pantheon) i 139 metr (456 tr) uwch lefel y môr (copa Monte Mario).[16] Arynebedd Cymuned Rhufain yw tua 1,285 cilomedr sgwâr (496 metr sgwâr), gan gynnwys llawer o ardaloedd gwyrdd.

Hinsawdd

[golygu | golygu cod]

Mae gan Rufain hinsawdd Môr y Canoldir (dosbarthiad hinsawdd Köppen: Csa), gyda hafau poeth, sych a gaeafau mwyn a llaith.[17] Mae ei dymheredd blynyddol ar gyfartaledd yn uwch na 21 °C (70 °F) yn ystod y dydd a 9 °C (48 °F) gyda'r nos. Yn y mis oeraf, Ionawr, y tymheredd cyfartalog yw 12.6 °C (54.7 °F) yn ystod y dydd a 2.1 °C (35.8 °F) gyda'r nos. Yn y mis cynhesaf, sef Awst, y tymheredd ar gyfartaledd yw 31.7 °C (89.1 °F) yn ystod y dydd a 17.3 °C (63.1 °F) gyda'r nos.

Rhagfyr, Ionawr a Chwefror yw'r misoedd oeraf, gyda thymheredd cymedrig dyddiol oddeutu 8 °C (46 °F). Mae'r tymeredd yn ystod y misoedd hyn yn gyffredinol yn amrywio rhwng 10 a 15 °C (50 a 59 °F) yn ystod y dydd a rhwng 3 a 5 °C (37 a 41 °F) gyda'r nos, gyda chyfnodau oerach neu gynhesach yn digwydd yn aml. Mae cawod o eira'n ddigwyddiad anaml, gydag eira ysgafn neu heidiau yn digwydd ar rai gaeafau, a rhaeadrau eira mawr ar ddigwyddiad prin iawn (roedd y rhai mwyaf diweddar yn 2018, 2012 a 1986).[18][19][20]

Y lleithder cymharol ar gyfartaledd yw 75%, gan amrywio o 72% yng Ngorffennaf i 77% ym mis Tachwedd. Mae tymheredd y môr yn amrywio o isaf o 13.9 °C (57.0 °F) yn Chwefror i uchafbwynt o 25.0 °C (77.0 °F) yn Awst.[21]

Adeiladau a chofadeiladau modern

[golygu | golygu cod]
Basilica San Pedr

Pobl o Rufain

[golygu | golygu cod]
Lleoliad Rhufain yn Ewrop
Baner Rhufain

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "What is the smallest country in the world?". History.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Medi 2018.
  2. ↑ https://demo.istat.it/?l=it.
  3. ↑ "Principal Agglomerations of the World". Citypopulation. Ionawr 2017.
  4. ↑ https://demo.istat.it/app/?l=it&a=2023&i=D7B.
  5. ↑ Andres Perez, Javier (2010). "Approximación a la Iconografía de Roma Aeterna" (PDF). El Futuro del Pasado. tt. 349–363. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 23 Medi 2015. Cyrchwyd 28 Mai 2014.
  6. ↑ "Popolazione residente al 1° gennaio".
  7. ↑ Stephanie Malia Hom, "Consuming the View: Tourism, Rome, and the Topos of the Eternal City", Annali d'Igtalianistica 28:91–116 Nodyn:Jstor
  8. 1 2 Heiken, G., Funiciello, R. and De Rita, D. (2005), The Seven Hills of Rome: A Geological Tour of the Eternal City. Gwasg Prifysgol Princeton.
  9. ↑ Coarelli (1984) p. 9
  10. ↑ Kinder & Hilgemann 1964, t. 73.
  11. ↑ Kinder & Hilgemann 1964, t. 77.
  12. ↑ Kinder & Hilgemann 1964, tt. 81-83.
  13. ↑ Kinder & Hilgemann 1964, tt. 81-85.
  14. 1 2 Kinder & Hilgemann 1964, t. 89.
  15. 1 2 3 Kinder & Hilgemann 1964, t. 91.
  16. ↑ Ravaglioli, Armando (1997). Roma anno 2750 ab Urbe condita (yn Eidaleg). Rome: Tascabili Economici Newton. ISBN 978-88-8183-670-3.
  17. ↑ "World Map of Köppen−Geiger Climate Classification". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Medi 2010.
  18. ↑ "Storia della neve a Roma". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Gorffennaf 2013. Cyrchwyd 2 Hydref 2014.
  19. ↑ "Snow startles Rome on Europe's coldest day of the winter". The Mercury News. 26 Chwefror 2018. Cyrchwyd 22 Awst 2019.
  20. ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  21. ↑ Monthly Tor San Lorenzo water temperature chart, seatemperature.org.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Eidal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato