Padova
![]() | |
![]() | |
Math | cymuned yn yr Eidal, dinas fawr, dinas, tref goleg, prifddinas ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 210,440 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Anthony of Padua ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Padova, Regio X Venetia et Histria ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 93.03 km² ![]() |
Uwch y môr | 12 metr ![]() |
Gerllaw | Bacchiglione ![]() |
Yn ffinio gyda | Abano Terme, Albignasego, Cadoneghe, Legnaro, Limena, Noventa Padovana, Ponte San Nicolò, Rubano, Saonara, Selvazzano Dentro, Vigodarzere, Vigonovo, Vigonza, Villafranca Padovana ![]() |
Cyfesurynnau | 45.4064°N 11.8778°E ![]() |
Cod post | 35121–35143 ![]() |
![]() | |
Dinas yn y Veneto yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal yw Padova (Eidaleg: Padova, Lladin: Patavium, Saesneg: Padua). Mae'n brifddinas Talaith Padova, ac roedd y boblogaeth yn 2011 yn 206,192.[1]
Saif y ddinas ar Afon Bacchiglione, 40 km i'r gorllewin o Fenis a 29 km i'r de-ddwyrain o Vicenza. Mae traddodiad ei bod wedi ei sefydlu yn 1183 CC gan y tywysog Antenor o Gaerdroea. Daeth yn municipium Rhufeinig yn 45 CC neu 43 CC.
Yn 601, gwrthryfelodd y ddinas yn erbyn y Lombardiaid, ac wedi gwarchae o 12 mlynedd, cipiwyd a llosgwyd hi gan Agilulf, brenin y Lombardiaid. Yn 899 anrheithiwyd Padova gan yr Hwngariaid. Sefydlwyd y brifysgol, y drydedd yn yr Eidal, yn 1222. Daeth dan reolaeth Fenis yn 1405, a pharhaodd hyn hyd 1797 heblaw am gyfnodau byr.
Ymhlith atyniadau Padova mae Capel Scrovegni (Eidaleg: Cappella degli Scrovegni), gyda chyfres o luniau fresco gan Giotto. Gardd Fotanegol Padova, Orto Botanico di Padova, a sefydlwyd yn 1545, yw'r hynaf yn y byd, ac mae wedi ei henwi'n Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Pobl enwog o Padova[golygu | golygu cod y dudalen]
- Titus Livius, hanesydd Rhufeinig (yn Abano, gerllaw Padova)
- Valerius Flaccus
- Asconius Pedianus
- Thrasea Paetus
- Andrea Palladio, pensaer
- Giovanni Battista Belzoni, Eifftolegwr
- Riccardo Patrese, gyrrwr rasio
Padova yw'r cefndir i ddrama William Shakespeare, The Taming of the Shrew.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ City Population; adalwyd 8 Mai 2018