Opteg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mae opteg yn cynnwys yr astudiaeth o gwasgariad golau.

Opteg yw'r gangen o ffiseg sy'n ymwneud â nodweddion ac ymddygiad golau a'i berthynas â mater. Mae hefyd yn ymwneud â dyfeisiadau ac offer optig sydd naill ai'n defnyddio golau neu'n ei synhwyro.[1] Gall 'opteg' gyfeirio at nodweddion golau gweladwy, uwchfioled a phelydrau isgoch. Gan fod golau'n donnau electromagnetig, ceir nodweddion digon tebyg gan ymbelydredd electromagnetig eraill e.e. pelydr-X, microdonnau a thonnau radio.[1]

Dalen allan o wyddoniadur Cyclopaedia, 1728, yn dangos dyfeisiadau optegol.

Gellir deall y rhan fwyaf o ffenomenâu optegol drwy'r ddefnyddio electromagneteg clasurol i ddisgrifio neu ddiffinio golau, ond yn ymarferol, mae'n anodd cael y llun cyflawn. Mae opteg ymarferol yn cael ei gyflawni drwy'r defnydd o fodelau syml. Y mwyaf cyffredin o'r rhain yw opteg geometrig, sy'n trin golau fel casgliad o donnau sy'n teithio mewn llinellau syth ac sy'n plygu pan maent naill ai'n cael eu hadlewyrchu neu'n treiddio drwy gwrthrychau. Mae opteg ffisegol, fodd bynnag, yn fodel llawer mwy cyflawn a chynhwysfawr, na ellir ei brofi drwy opteg geometrig. Yn hanesyddol, y dull-pelydrau ddaeth yn gyntaf a'r model dull-tonnau wrth ei sodlau. Datblygwyd y syniadau hyn yn y 19eg ganrif, nes y darganfuwyd fod tonnau golau mewn gwirionedd yn ymbelydredd electromagnetig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 McGraw-Hill Encyclopedia of Science and Technology (5th ed.). McGraw-Hill. 1993.
Optic stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am opteg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.