Gwyddoniaeth naturiol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ystyr traddodiadol Gwyddoniaeth Naturiol yw astudiaeth o agweddau di-ddynol y byd. Fel casgliad, gwahaniaethwyd y gwyddoniaethau naturiol oddi wrth diwinyddiaeth a'r gwyddoniaethau cymdeithasol ar un llaw, a'r celfyddydau a dyniaethau ar y llaw arall. Nid yw mathemateg ar ben ei hun yn gwyddoniaeth naturiol, ond mae yn darparu nifer o dullau craidd iddynt. Mae gwyddoniaethau naturiol yn ymgeisio i esbonio gweithiant y byd ar sail prosesau naturiol yn hytrach na prosesau dwyfol. Hefyd, defnyddir y term gwyddoniaeth naturiol ar gyfer nodi "gwyddoniaeth" fel dysgyblaeth sy'n dilyn y dull gwyddonol.

Is-ddosbarthiad Gwyddoniaeth Naturiol[golygu]

Gwyddoniaeth a Mathemateg Bioleg

Yr astudiaeth o fywyd yw beioleg (neu weithiau "bywydeg"). Mae'n delio â nodweddion, dosbarthiad, ac ymddygiad organebau, sut mae rhywogaethau'n dod i fodolaeth a'r berthynas sydd ganddynt efo'i gilydd ac efo'r amgylchedd.

Celfyddyd a Diwylliant Cemeg

Astudiaeth mater yw Cemeg (Groeg: χημεία), sy'n ymwneud â strwythur a nodweddion cemegau, ynghyd â thrawsnewidiadau ar lefel atomig.

Gwyddorau Cymdeithas ac Athroniaeth Ecoleg

Astudiaeth o'r berthynas rhwng organebau a'u hamgylchedd yw Ecoleg (Groeg: oikos yw tŷ a logos ydy gwyddoniaeth). Mae esblygiad ac ecosystem yn dermau perthnasol.

Adloniant, Difyrweithiau a'r Cyfryngau Ffiseg

Mae ffiseg (o'r Groeg "φυσικός", naturiol, a "φύσις", natur) yn gainc o'r astudiaeth wyddonol o fyd natur. Amcan ffiseg yw canfod y deddfau sylfaenol sy'n llywodraethu mater, ynni, gofod ac amser.

Gwyddoniaeth Gymhwysol Gwyddorau Daear

Mae Gwyddorau daear yn cynnwys pob math o astudiaeth o'r Ddaear gan gynnwys astudiaeth cerrig a chramen y Ddaear, sef Daeareg, astudiaeth dŵr, sef Hydroleg, yr hinsawdd a'r tywydd, sef Meteoroleg.

Cynnwys Seryddiaeth

Astudiaeth wyddonol o'r bydysawd yw Seryddiaeth, gan gynnwys y sêr, Cysawd yr Haul a'r planedau. Mae'n cynnwys arsylwi ac egluro digwyddiadau a tharddiad a datblygiad gwrthrychau ynghyd a'u priodoleddau ffisegol a chemegol.