Bywydeg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bywydeg (weithiau: bioleg) yw'r maes gwyddonol sy'n ymdrin â bywyd ac organebau byw. Mae'n cynnwys astudiaethau ar sut mae organebau yn gweithio, datblygu ac esblygu

Mae bywydeg yn ymdrin ag ystod eang o feysydd academaidd sy'n edrych ar bob rhan o natur. Yn draddodiadol, mae'r pwnc yn cael ei rannu'n is-feysydd yn ôl grŵp tacsonomaidd – er enghraifft, mae botanegwyr yn astudio planhigion, sŵolegwyr yn astudio anifeiliaid, mycolegwyr yn astudio ffyngau a meicrofiolegwyr yn astudio bacteria. Mae rhannu bywydeg yn ôl trefn fiolegol yn ffordd fwy cyfoes o wahaniaethu meysydd – er enghraifft, drwy edrych ar foleciwlau a chelloedd, organebau cyfan a phoblogaethau. Gellir hefyd rhannu bywydeg yn ôl dull: gwaith maes, bioleg damcaniaethol, bioffiseg, paleontoleg, ac ati.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae bywydeg fel maes modern o astudiaeth wyddonol yn ddatblygiad cymharol ddiweddar. Defnyddiwyd y term bioleg (neu air tebyg) – sy'n deillio o'r gair Groeg βίος (bios, "bywyd") a'r ôl-ddodiad -λογία (-logia, "astudiaeth o")[1] – am y tro cyntaf o gwmpas dechrau'r 19g. Defnyddiwyd gan y ffisiolegydd Thomas Beddoes yn 1799, y gwyddonydd Karl Friedrich Burdach yn 1800 a'r gwyddonydd Gottfried Reinhold Treviranus yn 1802.[2][3][4]

Ond er tarddiad diweddar y pwnc fel y'i adnabyddir heddiw, gellir olrhain hanes bywydeg yn ôl i amseroedd hynafol. Bu Aristoteles yn astudio hanes naturiol anifeiliaid a phlanhigion yng Ngroeg yn Henfyd oddeutu 330CC.[5] Roedd gan brentis Aristoteles, Theophrastus, hefyd ddiddordeb mawr mewn byd natur ac fe ysgrifennodd yn helaeth am blanhigion.[6]

Bu nifer o ddisgyblion y byd Islamaidd canoloesol yn astudio bywydeg, yn cynnwys al-Jahiz (781–869), Al-Dīnawarī (828–896), a ysgrifennodd am fotaneg ac al-Razi (865–925), a ysgrifennodd am ffisioleg ac anatomeg.[7][8][9]

Yn dilyn gwaith arloesol Antonie van Leeuwenhoek ar wella a datblygu'r microsgop yn yr 17g, tyfodd y maes yn sydyn. Darganfyddwyd celloedd sberm, bacteria ac organebau bychain eraill, megis algâu.[10] Fe helpodd datblygiadau fel hyn nodi pwysigrwydd y gell i organebau byw erbyn y 19g. Yn 1838, cyhoeddodd y gwyddonwyr Almaenig Matthias Jakob Schleiden a Theodor Schwann dri syniad sydd erbyn hyn yn cael eu derbyn yn gyffredinol: (1) mai'r gell yw uned sylfaenol organebau; (2) fod gan gelloedd unigol holl nodweddion bywyd; a (3) fod pob cell wedi dod o gelloedd eraill yn rhannu. Gelwir y syniadau hyn heddiw yn theori cell.[11]

Yn yr 17g a'r 18g, dechreuodd haneswyr naturiol ganolbwyntio ar dacsonomeg a dosbarthu bywyd. Cyhoeddodd y botanegydd, swolegydd a meddyg o Sweden Carolus Linnaeus argraffiad cyntaf ei Systema Naturae yn 1735 er mwyn dosbarthu organebau yn y byd naturiol.[12]. Mae ei gyfundrefn o enwau deuenwol yn cael eu defnyddio ar gyfer enwi rhywogaethau hyd heddiw.[13]

Yn y 19g, roedd nifer o wyddonwyr yn dechrau cysidro esblygiad. Cyhoeddodd y biolegydd Ffrengig Jean-Baptiste de Lamarck ei waith Philosophie Zoologique, ac adnabyddir y gyfrol hon fel y gwaith cyntaf i gynnig damcaniaeth gydlynnol ar gyfer esblygiad.[14] Syniad Lamarck oedd fod anifeiliaid yn esblygu oherwydd straen amgylcheddol – wrth i anifail ddefnyddio organ yn amlach ac yn fwy manwl, byddai'r organ yn dod yn fwy cymhleth ac effeithlon; creda Lamarck y gallai'r anifail wedyn basio'r rhinweddau hynny ymlaen ac y gall y genhedlaeth nesaf wella nodweddion yr organ ymhellach.[15] Ond cynigwyd damcaniaeth fwy llwyddiannus yn 1859 gan y naturiaethwr o Loegr Charles Darwin yn dilyn ei deithiau i Ynysoedd y Galapagos a'i ddealltwriaeth o faes geoleg, gan ddefnyddio detholiad naturiol i egluro esblygiad. Ar yr un pryd, daeth y Cymro Alfred Russel Wallace i'r un casgliad wrth ddefnyddio tystiolaeth debyg o dde-ddwyrain Asia.[16][17][18]

Yn yr 20g, bu llawer o ymdrech i geisio deall natur etifeddeg. Roedd y mynach o Forafia Gregor Mendel wedi dangos y gall nodweddion pennodol gael eu hetifeddu yn 1865, ond ni chafodd ei waith sylw rhyngwladol nes 1901.[19] Yn 1927, cynnigiodd Nikolai Koltsov fod nodweddion yn cael eu hetifeddu drwy foleciwl etifeddol gyda dau edafedd, y naill yn datblygu gan ddefnyddio'r llall fel templed.[20] Dangoswyd yn y 1940au mai DNA oedd y moleciwl hwn drwy'r arbrawf Avery-MacLeod-McCarty mewn bacteria, a cadarnawyd hyn mewn firwsau yn 1952 yn yr arbrawf Hershey-Chase.[21][22]

Dosbarthiad bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Dosbarthiad biolegol
Syr Richard Owen; darganfyddwr y 'Deinosor'

Defnyddir system o'r enw 'Tacsonomeg Linnaeaidd' i ddosbarthu organebau mewn grwpiau. Mae'n cynnwys rhenciau ac enwau deuenwol. Caiff sut enwir organebau ei reoli gan gytundebau rhyngwladol megis Cod Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Botanegol (ICBN), Cod Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Sŵolegol (ICON), a Chod Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Bacteria (ICNB). Trwy ddosbarthiad biolegol gallwn weld sut mae anifeiliaid wedi esblygu ac addasu i'w cynefinoedd.

Pethau byw[golygu | golygu cod y dudalen]

Lluniau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cysyniadau Allweddol Bioleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae prif ddarganfyddiadau bioleg yn cynnwys:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Who coined the term biology?. Info.com. Adalwyd ar 2012-06-03.
  2.  biology. Geiriadur Saesneg Rhydychen. Adalwyd ar 2017-11-15.
  3. Junker. Geschichte der Biologie, tud. 8
  4. Coleman. Biology in the Nineteenth Century, tud. 1–2
  5. Aristoteles. The History of AnimalsURL
  6.  The grandfather of botany – Theophrastus of Eresus. Gerddi Botanegol Brenhinol Kew. Adalwyd ar 2017-11-15.
  7. Malik, Aamina H; Ziermann, Janine M; Diogo, Rui. "An untold story in biology: the historical continuity of evolutionary ideas of Muslim scholars from the 8th century to Darwin’s time". Journal of Biological Education. doi:10.1080/00219266.2016.1268190.
  8. Fahd, Toufic. "Botany and agriculture", gol. Rashed, Roshdi: Encyclopedia of the History of Arabic Science, 3. Routledge, tud. 815. ISBN 0-415-12410-7
  9.  Insights into Neurologic Localization by Al-Razi (Rhazes), a Medieval Islamic Physician. Muslim Heritage. Adalwyd ar 2017-11-16.
  10. Cobb, Matthew (2007). The Egg and Sperm Race: The Seventeenth-Century Scientists Who Unravelled the Secrets of Sex, Life and Growth. Simon & Schuster UK. ISBN 978-1416526001
  11. Sapp, Jan. Genesis: the Evolution of Biology. Gwasg Prifysgol Rhydychen. ISBN 0-19-515618-8
  12. Linnaeus, Carolus. Systema Naturae (yn Lladin)
  13. Nicholson, Dan H (1991). A history of botanical nomenclature, Annals of the Missouri Botanical Garden, Cyfrol 78 (yn Saesneg), tud. 33-56. DOI:10.2307/2399589
  14. Gould, Stephen Jay (2002). The Structure of Evolutionary Theory. Gwasg Prifysgol Harvard, tud. 187. ISBN 0-674-00613-5
  15. Lamarck, Jean Baptiste (1809). Philosophie Zoologique (yn Ffrangeg)
  16. Larson, Edward J (2006). Evolution: The Remarkable History of a Scientific Theory. Random House. ISBN 978-1-58836-538-5
  17. (Saesneg) McKie, Robin. How Darwin won the evolution race. y Guardian. Adalwyd ar 2017-11-16.
  18.  Wiliam, Math. Cofio Darwin Cymru. BBC Cymru Fyw. Adalwyd ar 2017-11-16.
  19. Ford, EB (1960). Mendelism and Evolution, 7, Methuen & Co
  20. Soyfer, VN. The consequences of political dictatorship for Russian science, Nature Reviews Genetics, Cyfrol 2, Rhifyn 9, tud. 723-729. DOI:10.1038/35088598
  21. (1944) Studies on the Chemical Nature of the Substance Inducing Transformation of Pneumococcal Types: Induction of Transformation by a Deoxyribonucleic Acid Fraction Isolated from Pneumococcus Type III, Journal of Experimental Medicine, Cyfrol 79, Rhifyn 2, tud. 137-158. DOI:10.1084/jem.79.2.137
  22. (1952) Independent functions of viral protein and nucleic acid in growth of bacteriophage, Journal of Genetic Physiology, Cyfrol 36, Rhifyn 1, tud. 29-56. DOI:10.1085/jgp.36.1.39URL


Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am bywydeg
yn Wiciadur.