Botaneg

Oddi ar Wicipedia
Botaneg
Enghraifft o'r canlynoldisgyblaeth academaidd, cangen o fywydeg, pwnc gradd, arbenigedd, cangen o wyddoniaeth Edit this on Wikidata
Mathbywydeg Edit this on Wikidata
Yn cynnwysmorffoleg planhigion, atgenhedlu planhigion, ffisioleg planhigion, geneteg planhigion, Bioleg datblygiad esblygiadol planhigion, ecoleg planhigion, anatomeg planhigion, cymdeithaseg planhigion, llysddaearyddiaeth, cemeg planhigion, ffenoleg, dadansoddi paill, paleofotaneg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae botaneg (o'r Groeg: botaníké [epistémé], "gwyddor planhigion"), a elwir hefyd yn fywydeg planhigion, ffeitoleg neu lysieueg, yn wyddoniaeth bywyd planhigion ac yn gangen o fywydeg. Mae'r botanegydd (neu'r ffeitolegydd) yn wyddonydd sy'n arbenigo yn y maes hwn. Daw'r term "botaneg" o'r gair Groeg Hynafol βοτάνη sy'n golygu "porfa", "perlysiau", "glaswellt", neu "borthiant"; ac mae βοτάνηyn ei dro'n deillio o βόσκειν (boskein), "bwydo" neu "pori".[1][2][3] Yn draddodiadol, mae botaneg hefyd wedi cynnwys astudiaeth o ffyngau ac algâu a hynny gan ymeicolegydd a'r ffeicolegydd, yn y drefn honno, gydag astudiaeth o'r tri grŵp hyn o organebau yn parhau o fewn maes diddordeb y Gyngres Fotaneg Ryngwladol.

Mae botaneg yn cynnwys graddfa eang o ddisbyglaethau gwyddonol sy'n astudio strwythur, tyfiant, atgenhedliad, metabolaeth, datblygiad, afiechydon, ecoleg, ac esblygiad planhigion.

Ar ddechrau'r 21g roedd botanegwyr (yn yr ystyr llym) yn astudio tua 410,000 o rywogaethau o blanhigion tir gyda rhyw 391,000 ohonynt yn blanhigion fasgwlaidd (gan gynnwys tua 369,000 o rywogaethau o blanhigion blodeuol),[4] ac mae tua 20,000 yn bryoffytau.[5]

Dechreuodd botaneg yn y cyfnod cynhanes gyda llysiau rhinweddol gydag phobol yn ymdrechu'n gynnar i adnabod - ac yn ddiweddarach amaethu - planhigion a oedd yn fwytadwy, yn wenwynig, ac o bosibl yn feddyginiaethol, gan ei wneud yn un o'r ymdrechion cyntaf i ymchwilio ac arbrofi. Roedd gerddi meddygol yr Oesoedd Canol, a oedd yn aml ynghlwm wrth fynachlogydd, yn cynnwys planhigion a allai gael budd meddyginiaethol. Roeddent yn rhagflaenwyr y gerddi botaneg cyntaf a gysylltwyd â phrifysgolion, ac a sefydlwyd o'r 1540au ymlaen. Roedd y gerddi hyn yn hwyluso'r astudiaeth academaidd o blanhigion. Yr ymdrechion i gatalogio a disgrifio eu casgliadau oedd dechreuadau tacsonomeg planhigion, a arweiniodd yn 1753 at y system finomaidd o enwi Carl Linnaeus sy'n parhau i gael ei defnyddio hyd heddiw ar gyfer enwi pob rhywogaeth fiolegol.

Yn y 19g a'r 20g, datblygwyd technegau newydd ar gyfer astudio planhigion, gan gynnwys dulliau microsgopeg optegol a delweddu celloedd byw, microsgopeg electron, dadansoddiad o rif cromosom, cemeg planhigion a strwythur a swyddogaeth ensymau a phroteinau eraill. Yn ystod dau ddegawd olaf yr 20g, manteisiodd botanegwyr ar dechnegau dadansoddi genetig moleciwlaidd, gan gynnwys genomeg a phroteomeg a dilyniannau DNA i ddosbarthu planhigion yn fwy cywir.

Mae botaneg fodern yn bwnc eang, amlddisgyblaethol gyda chyfraniadau o'r rhan fwyaf o feysydd gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae pynciau ymchwil yn cynnwys astudio strwythur planhigion, twf a gwahaniaethu, atgenhedlu, biocemeg a metaboledd cynradd, cynhyrchion cemegol, datblygiad, clefydau, perthnasoedd esblygiadol, systemateg, a thacsonomeg planhigion. Themâu amlycaf gwyddor planhigion yr 21g yw geneteg foleciwlaidd ac epigeneteg, sy'n astudio mecanweithiau a rheolaeth mynegiant genynnau wrth wahaniaethu rhwng celloedd a meinweoedd planhigion. Mae gan ymchwil botanegol gymwysiadau amrywiol wrth ddarparu prif fwydydd, deunyddiau megis pren, olew, rwber, ffibr a chyffuriau, mewn garddwriaeth fodern, amaethyddiaeth a choedwigaeth, lluosogi planhigion, bridio ac addasu genetig, yn y synthesis o gemegau a deunyddiau crai ar gyfer adeiladu a chynhyrchu ynni, mewn rheolaeth amgylcheddol, a chynnal bioamrywiaeth.

Maes a phwysigrwydd botaneg[golygu | golygu cod]

Trawsdoriad o ddeilen gyda gwybodaeth am ei ffurfiant.

Megis ffurfiau bywyd eraill ym mioleg, gall planhigion cael eu hastudio o safbwyntiau gwahanol, o'r lefel moleciwlaidd, genetig a biocemegol trwy organebau, celloedd, meinweoedd, organau, unigolion, poblogaethau planhigion, a chymunedau planhigion. Ar bob un o'r lefelau yma gall botanegwr ymddiddori'i hunan mewn dosbarthiad (tacsonomeg), strwythur (anatomeg), neu swyddogaeth (ffisioleg) planhigion.

Yn hanesyddol, mae botaneg yn ymdrin â phob organeb na ystyrir yn anifeiliaid. Mae rhai o'r organebau yma yn cynnwys ffyngau (a astudir ym mycoleg), bacteria a firysau (a astudir ym microbioleg), ac algae (a astudir yn phycoleg). Ni ystyrir y rhan fwyaf o algae, ffyngau, a microbau i fod yn y deyrnas planhigion rhagor. Er hynny, mae sylw'n dal i gael ei roi iddynt gan fotanegwyr, ac fel arfer ymdrinir â bacteria, ffyngau, ac algae mewn cyrsiau botaneg rhagarweiniol.

Hibiscus

Mae astudiaeth planhigion yn bwysig am nifer o resymau. Mae planhigion yn rhan sylfaenol o fywyd y Ddaear. Maent yn cynhyrchu ocsigen, bwyd, ffibrau, tanwyddau a moddion sy'n galluogi ffurfiau uwch o fywyd i fodoli. Mae planhigion hefyd yn amsugno carbon deuocsid (nwy tŷ gwydr arwyddocaol), drwy ffotosynthesis. Mae dealltwriaeth dda o blanhigion yn hanfodol i ddyfodol dynolryw gan ei fod yn ein galluogi ni i:

  • Fwydo'r byd
  • Deall prosesau bywyd sylfaenol
  • Defnyddio moddion a defnyddiau
  • Deall newidiadau amgylcheddol

Hanes[golygu | golygu cod]

Offer traddodiadol botangewr

Botaneg gynnar (cyn 1945)[golygu | golygu cod]

engraving of cork cells from Hooke's Micrographia, 1665
Ysgythriad o gelloedd corc, o Micrographia Robert Hooke, 1665

Dechreuodd botaneg fel llysieuaeth (Saesneg: herbalism), yr astudiaeth a'r defnydd o blanhigion ar gyfer meddyginiaethol posibl.[6] Mae hanes cofnodion cynnar botaneg yn cynnwys llawer o ysgrifau hynafol a dosbarthiad planhigion. Ceir enghreifftiau o weithiau botanegol cynnar mewn testunau hynafol o India sy'n dyddio'n ôl i cyn 1100 CC,[7][8] Yr Hen Aifft,[9] mewn ysgrifau Avestan hynafol, ac mewn gweithiau o Tsieina cyn 221 CC.[7][10]

Mae botaneg fodern yn olrhain ei gwreiddiau yn ôl i'r Hen Roeg yn benodol i Theophrastus (c. 371-287 CC), sef un o fyfyrwyr Aristotle a ddyfeisiodd a disgrifiodd lawer o egwyddorion botaneg ac a ystyrir yn eang yn y gymuned wyddonol fel "Tad Botaneg".[11] Ei weithiau mawr, Ymchwiliad i Blanhigion ac Ar Achosion Planhigion, yw'r cyfraniadau pwysicaf i wyddoniaeth fotanegol hyd yr Oesoedd Canol, bron i un-deg-saith canrif yn ddiweddarach.[11][12]

Ymhlith y gweithiau botanegol cynharaf mae dau draethawd mawr gan Theophrastus, a ysgrifennir tua 300 C.C.: Ar Hanes Planhigion (Historia Plantarum) ac Ar Achosion Planhigion. Gyda'i gilydd mae'r llyfrau yma yn y cyfraniad pwysicaf i wyddor planhigion yn ystod yr henfyd hyd yr Oesoedd Canol. Mae'r awdur meddygol Rhufeinig Dioscorides yn rhoi tystiolaeth bwysig am wybodaeth Groegaidd a Rhufeinig am blanhigion meddygol.

Yn 1665, gan ddefnyddio microsgop cynnar, darganfu Robert Hooke gelloedd mewn corc, ac yna mewn meinwe planhigyn byw. Cyhoeddodd yr Almaenwr Leonhart Fuchs, y Swisiad Conrad von Gesner, a'r awduron Prydeinig Nicholas Culpeper a John Gerard llysieulyfrau yn rhoi gwybodaeth ar ddefnyddiau meddygol planhigion.

Botaneg fodern (ers 1945)[golygu | golygu cod]

Mae cryn dipyn o'r wybodaeth newydd y ddysgem am fotaneg heddiw yn dod o astudio blanhigion model megis Arabidopsis thaliana. Roedd y chwynnyn mwstard yma yn un o'r planhigion cyntaf i gael dilyniant ei genom ei ddarganfod. Mae dilyniant DNA genom reis wedi ei wneud yn y fodel mewn ffaith ar gyfer grawnfwyd, gwair a monocot. Mae Brachypodium distachyon, rhywogaeth gwair arall, hefyd yn ymddangos fel model arbrofol ar gyfer deall bioleg genetig, cellog a moleciwlaidd gweiriau tymherus. Mae prif bwydydd eraill sy'n bwysig ym myd masnach, megis gwenith, indrawn, haidd, rhyg, miled a'r ffeuen soia, hefyd yn derbyn ymchwil i'w dilyniannau genom. Mae hyn yn gallu bod yn waith anodd iawn gan fod gan rhai mwy na ddwy set haploid o gromosomau, cyflwr a elwir yn bolyploidaeth, sy'n gyffredin yn y deyrnas planhigion. Mae Chlamydomonas reinhardtii (alga gwyrdd, ungell) yn fodel blanhigyn arall sydd wedi cael ei hastudio'n ymestynnol ac wedi rhoi mewnwelediadau pwysig i mewn i fioleg celloedd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am botaneg
yn Wiciadur.
  1. Liddell & Scott 1940.
  2. Gordh & Headrick 2001.
  3. Online Etymology Dictionary 2012.
  4. RGB Kew 2016.
  5. The Plant List & 2013.
  6. Sumner 2000, t. 16.
  7. 7.0 7.1 Reed 1942.
  8. Oberlies 1998, t. 155.
  9. Manniche 2006.
  10. Needham, Lu & Huang 1986.
  11. 11.0 11.1 Greene 1909, tt. 140–142.
  12. Bennett & Hammond 1902.