Firws

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Firws
Rotavirus Reconstruction.jpg
Data cyffredinol
Dynodwyr
Freebase /M/0g9pc edit this on wikidata
Arall
Commons page Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Organeb (pathogen) bychan iawn yw firws (neu ar lafar 'feirws') sy'n medru byw oddi fewn i organeb fyw arall yn unig.[1]

Cyhoeddodd Dmitri Ivanovsky yn 1892 erthygl yn disgrifio pathogen nad oedd yn facteri a oedd yn heintio planhigion tybaco; roedd yr erthygl mewn gwirionedd yn disgrifio Martinus Beijerinck a ddarganfyddodd y feiwrs hwn yn 1898, ac ers hynny mae tua 5,000 gwahanol fathau wedi'u disgrifio mewn peth manylder. Gwyddir hefyd fod miliynau o wahanol fathau ar gael nad ŷnt wedi'u cofnodi'n fanwl.[2] Fe'i canfyddir ym mhob ecosystem dan haul ac mae mwy ohonynt nac unrhyw organeb arall.[3][4] Gelwir yr astudiaeth o firysau yn firoleg sy'n is-ddosbarth o ficrobioleg.

Mae sut y maent wedi tarddu (o ran hanes esblygiad bywyd) yn niwlog. Ceir dau bosibilrwydd: yn gyntaf, gallant fod wedi esblygu allan o blasmidau (darnau bychain o DNA) a all symud o un gell i'r llall. Yr ail bosibilrwydd yw iddynt esblygu allan o facteria. Credir hefyd eu bont yn ddull pwysig o drawsffurfio genynol llorweddol - sy'n beth da o ran bioamrywiaeth.[5]

Mae'r firws yn lledaenu mewn sawl ffordd; mae pryfaid fel yr affid yn eu trosglwyddo o blanhigyn i blanhigyn; pryfaid sy'n sugno gwaed (fectorau) sydd hefyd yn gyfrifol am eu trosglwyddo o anifail i anifail a thrwy'r awyr e.e. mae'r firws ffliw yn cael ei drosglwyddo drwy beswch neu disian. Mae'r norofirws a'r rotofirws yn ymledu drwy gyffyrddiad: o ymgarthion i'r ceg o berson i berson. Gallant fynd i fewn i'r corff mewn dŵr neu fwyd. Dull arall o ymledu ydy drwy gyffyrddiad rhywiol fel y gwna'r firws HIV.

Mae gan firysau gyfnodau 'cwsg' hefyd ble gallant gyfuno â DNA niwclear, gan ailymddangos fel ffurf ffyrnig yn ddiweddarach, yn aml pan fydd ymwrthedd yr organeb yn isel. Dyma pam, er enghraifft, os ydych wedi cael brech yr ieir, gallwch gael yr eryr yn ddiweddarach - mae firws brech yr ieir wedi ymgyfuno â'ch DNA ar ffurf cwsg gan ailymddangos fel yr eryr pan fod eich ymwrthedd yn isel.[6]

Diagnosis[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir clustnodi firysau yn ôl y lleoliad a'r symptomau a achosir, trwy gasglu sampl ac adweithio yn erbyn gwrthgyrff penodol neu drwy gasglu ac adnabod dilyniannau o asid niwclëig.

Triniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid oes llawer o gyffuriau penodol ar gael hyd yn oed nawr, (mae Tamiflu yn enghraifft amserol), ac am lawer o flynyddoedd nid oedd 'triniaethau' i'w cael o gwbl a allai ladd y cyfrwng heintus. Mae'r prif driniaethau'n ymwneud â lleddfu'r symptomau, e.e. defnyddio cyffuriau gwrthlidiol neu boenliniarwyr, a gorffwys a maeth da er mwyn rhoi'r cyfle gorau i system imiwnedd y person o guro'r haint.

Fel rheol y dull rheoli dewisol yw ataliad drwy imiwneiddio – ‘brechu’. Mae'r imiwnedd a roddir yn amrywio o ran parhad ei effeithiolrwydd. Gall brechu ddigwydd yn ystod plentyndod, neu ar adeg arall gyfleus yn achos llawer o imiwneddau hirbarhaol, ond mae angen iddo fod yn agosach mewn amser at y datguddiad tebygol yn achos imiwneddau byr hoedlog a firysau sy'n newid yn gyflym

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Koonin EV, Senkevich TG, Dolja VV. The ancient Virus World and evolution of cells. Biol. Direct. 2006;1:29. doi:10.1186/1745-6150-1-29. PMID 16984643.
  2. Breitbart M, Rohwer F. Here a virus, there a virus, everywhere the same virus?. Trends Microbiol. 2005;13(6):278–84. doi:10.1016/j.tim.2005.04.003. PMID 15936660.
  3. Lawrence CM, Menon S, Eilers BJ, et al.. Structural and functional studies of archaeal viruses. J. Biol. Chem.. 2009;284(19):12599–603. doi:10.1074/jbc.R800078200. PMID 19158076.
  4. Edwards RA, Rohwer F. Viral metagenomics. Nat. Rev. Microbiol.. 2005;3(6):504–10. doi:10.1038/nrmicro1163. PMID 15886693.
  5. Canchaya C, Fournous G, Chibani-Chennoufi S, Dillmann ML, Brüssow H. Phage as agents of lateral gene transfer. Curr. Opin. Microbiol. . 2003;6(4):417–24. doi:10.1016/S1369-5274(03)00086-9. PMID 12941415.
  6. "Iechyd a GofalCymdeithasol". 2011. http://adnoddau.cbac.co.uk/Pages/ResourceByArgs?subId=16. Adalwyd 2017.
  • Dimmock, N.J; Easton, Andrew J; Leppard, Keith (2007) Introduction to Modern Virology sixth edition, Blackwell Publishing, ISBN 1-4051-3645-6.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]