Ceg ddynol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ceg ar agor

Mewn anatomeg ddynol, y geg yw'r rhan gyntaf o'r gamlas bwydydd sy'n derbyn bwyd ac yn cynhyrchu poer[1]. Y mwcosa llafar yw'r bilen fwcaidd epitheliwm sy'n leinio tu mewn i'r geg.

Yn ogystal â'i rôl sylfaenol fel man cychwyn y system dreulio mewn pobl, mae'r geg hefyd yn chwarae rhan arwyddocaol mewn cyfathrebu. Er bod agweddau sylfaenol y llais yn cael eu cynhyrchu yn y gwddf, mae angen i'r tafod, y gwefusau a'r safnau hefyd i gynhyrchu ystod seiniau'r llais dynol

Strwythuru[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r geg yn cynnwys dau ranbarth, y cyntedd a'r ceudod llafar[2]. Mae'r geg, fel arfer, yn llaith wedi'i leinio â philen mwcws, ac mae'n cynnwys y dannedd. Mae'r gwefusau yn nodi'r trawsnewidiad o bilen fwcaidd i'r croen sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o'r corff. Mae ei do yn cael ei ffurfio gan daflod galed ar y blaen, a thaflod feddal yn y cefn. Mae'r wfwla yn mynd i lawr o ganol y daflod feddal ger ei gefn. Mae'r llawr yn cael ei ffurfio gan y cyhyrau mylohyoid sy'n cael ei feddiannu yn bennaf gan y tafod. Mae pilen mwcws - y mwcosa llafar, yn leinio ochr a phen isa’r dafod hyd y deintgig, gan linio wynebwedd fewnol y genogl (mandibl). Mae'n derbyn y chwarenlifau oddi wrth y chwarennau isfandiblaidd a'r chwarennau dan y tafod.

Pan fyddo ar gau, mae cyntedd y geg yn ffurfio llinell rhwng y wefus uchaf a'r wefus isaf[3]. Mewn mynegiant wyneb mae llinell y geg yn creu siâp eiconig fel parabola ar ei fynnu mewn gwên, ac fel parabola ar ei lawr mewn gwg. Gwen a gwg yw'r ddau fath o gyfathrebu di-eiriau pwysicaf yn y mynegiant dynol.

Swyddogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r geg yn chwarae rhan bwysig wrth fwyta, yfed, anadlu a siarad. Mae babanod yn cael eu geni gydag adwaith sugno, trwy'r hyn y maent yn gwybod yn reddfol i sugno am faeth gan ddefnyddio eu gwefusau a'u safnau. Mae'r geg hefyd yn helpu cnoi a mwydo bwyd. Trwy gusanu, llyfu a rhyw geneuol mae'r geg hefyd yn chware rhan yn y weithred rywiol ddynol.

Gall ceg dynion ddal, ar gyfartaledd, 71.2 ml, tra bod ceg fenywaidd yn dal 55.4 ml

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Maton, Anthea; Jean Hopkins; Charles William McLaughlin; Susan Johnson; Maryanna Quon Warner; David LaHart; Jill D. Wright (1993). Human Biology and Health. Englewood Cliffs, New Jersey, USA: Prentice Hall. ISBN 0-13-981176-1
  2. Pocock, Gillian (2006). Human Physiology (Third ed.). Oxford University Press. p. 382. ISBN 978-0-19-856878-0.
  3. Susan Standring (golygydd) (2008). Gray's anatomy : the anatomical basis of clinical practice (40th ed.). [Edinburgh]: Churchill Livingstone/Elsevier. ISBN 978-0443066849