Norofeirws
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Safle tacson | genws |
Rhiant dacson | Caliciviridae, Picornavirales |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math o feirws peryglus ydy'r norofeirws, a adnabyddwyd cynt fel Norwalk agent ar ôl dinas Norwalk, Ohio, lle bu achos yn 1968. Mae'n perthyn i'r deulu o feirws o'r enw: feirws DNA ac mae'n achosi 90% o gastroenteritis ledled y byd, heb gyfri ymosodiadau gan facteria. Mae'n debygol ei fod yn achosi 50% o wenwyn bwyd yn Unol Daleithiau America. Mae'n effeithio pobol o bob oedran. Mae'n fwy tebygol i bobl gyda grwp-gwaed O gael eu heffeithio na grwpiau-gwaed B a AB. Bob blwyddyn mae'r Norofeirws yn effeithio ar rhwng 600,000 a miliwn o bobl o bob oedran yn y DU.
Mae'n feirws sy'n datblygu drwy'r amser gan newid y ffordd mae'n amddiffyn ei hun. Mae rhai mathau sydd bellach yn imiwn i sebon golchi dwylo gwrth-septig a gwrthseptig.[1] Mae gwyddonwyr yn ceisio creu gwrth-firws i'w ddifa. Y llefydd gwaetha i'w ddal ydy mewn llongau pleser ac mewn ysbytai ac ysgolion.
Symptomau
[golygu | golygu cod]Rydych chi'n debygol o gael norofirws os ydych chi'n cael y symptomau isod:
- teimlo'n sâl yn sydyn
- chwydu'n wael
- dolur rhydd llawn dŵr
Mae rhai pobl hefyd yn dioddef o dwymyn, cur pen, crampiau poenus yn y stumog a chyrff difrifol.
Mae'r symptomau'n ymddangos un i ddau ddiwrnod ar ôl i chi fynd yn heintiedig ac fel arfer mae'n para am hyd at 2 neu 3 diwrnod.[2]
Atal
[golygu | golygu cod]Mae norofeirws yn cael ei drosglwyddo’n hawdd iawn rhwng y naill berson a’r llall. Gallwch ei ddal drwy ddod i gysylltiad â rhywun sydd wedi’i heintio, drwy gyffwrdd ag arwynebau neu bethau sydd wedi’u halogi â’r feirws neu drwy gymryd bwyd a diod sydd wedi’u halogi. Nad oes modd osgoi cael eich heintio bob tro ond mae camau syml ac ymarferol y gallwch chi eu cymryd er mwyn lleihau’r risg o ledaenu’r feirws:
- golchi’ch dwylo ar ôl bod i’r tŷ bach a chyn cyffwrdd â bwyd
- glanhau pob man lle mae bwyd yn cael ei baratoi, a’r holl offer a ddefnyddir i’w baratoi, cyn ac ar ôl iddynt gael eu defnyddio
- golchi a choginio bwyd yn drwyadl[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [Superbug resistant to hand-washing; Sunday Times, tudalen 7; dyddiad=12/02/2012.
- ↑ "norovirus". NHS. Cyrchwyd 2017. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "Norofeirws". Her Iechyd Cymru. 2012. Cyrchwyd 2017. Check date values in:
|access-date=
(help)[dolen farw]