Tacson

Oddi ar Wicipedia
Ffurfia'r Eliffantod Affricanaidd genws a elwir yn Loxodonta; gair sey'n cael ei dderbyn gan y rhan fwyaf o naturiaethwyr.

Tacson, neu uned dacsonomaidd, yw grŵp o organebau (wedi'u henwi neu'n ddienw), yn y system dosbarthiad gwyddonol.

Strwythr[golygu | golygu cod]

Unwaith ei fod wedi'i enwi, bydd gan bob tacson reng benodol o fewn hierarchaeth. Yn aml ceir anghytundeb gan dacsonomegwyr ynglŷn â beth sy'n perthyn i dacson arbennig, a'r llinyn mesur dros gynnwys y rhywogaeth yn y tacson hwnnw. Pan fo cytundeb, rhoddir enw gwyddonol (Lladin) arno a rheolir y defnydd o'r enw hwnnw drwy gyplysu enwau gyfundrefnol (nomenclature code) gyda'r grŵp.

Dyma rengoedd tacsonau mewn trefn hierarchaidd:

Parth
Teyrnas
Ffylwm
Dosbarth
Urdd
Teulu
Genws
Rhywogaeth
Isrywogaeth

Defnyddir y rhagddodiaid uwch- ac is- i ddangos rhengoedd llai nodedig o fewn y prif dacsonau uchod. Er enghraifft:

Uwchddosbarth
Dosbarth
Isddosbarth
Infraddosbarth - defnyddir y rhagddodiad infra- i ddynodi rheng sy'n islaw is- yn Sŵoleg