Teyrnas (bioleg)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lefelau dosbarthiad biolegol Rhywogaeth Genws Teulu Urdd Dosbarth Ffylwm Teyrnas Parth Bywyd

Magnify-clip.png
Y prif rengoedd mewn dosbarthiad biolegol.

Mewn bioleg, y tacson lefel-uchaf (neu uchaf-ond-un) yw Teyrnas (Lladin: regnum) a rennir yn grŵpiau llai megis ffylau, neu'n ddosbarthiadau.

Yn yr Yr Oesoedd Canol disgrifiwyd rhywogaethau gwahanol o fewn genws gyda rhestr hir o dermau Lladin. Nid tan y 18fed ganrif y cyflwynodd Carolus Linnaeus (1707-1778) y system sy’n dal mewn defnydd heddiw, lle defnyddir dim ond dau air, un am y genws ac un am y rhywogaeth. Yr enw am y system hon yw'r system ddeuenwol. Yn Systema Naturae Carolus Linnaeus (1735), rhennir pethau byw yn ddwy deyrnas: Animalia a Vegetabilia. Ers hynny, datblygodd gwayddoniaeth a thechnoleg ac mae llawer wedi ei ganfod ynglŷn ag organebau un-gellog, ymysg pethau eraill, felly roedd angen system mwy cynnil.[1] Yn y 1960au cyflwynwyd y gair 'Rank' a newidiwyd yn ei dro i 'Domain' (Cymraeg: Parth).

Un system o'r fath yw'r system 6-teyrnas a ddefnyddir yn UDA, lle rhennir organebau yn Bacteria, Archaea, Protista, Fungi (Ffwng), Plantae (Planhigion) ac Animalia (neu 'Anifeiliaid'). Yng ngwledydd Prydain, India, Awstralia ac America Ladin, fodd bynnag, defnyddir 5-teyrnas, sef: Anifeiliaid, Planhigion, Ffwng, Protista a Monera. Mae rhai dulliau o ddosbarthu bywyd yn hepgor y term "Teyrnas", gan nodi nad yw'r teyrnasoedd traddodiadol yn perthyn i un hynafiad cyffredin.

Gellir ychwanegu rhagddodiaid megis "isdeyrnas", "uwchdeyrnas" neu "infradeyrnas".

Y dosbarthiad modern[golygu | golygu cod y dudalen]

Tri Theyrnas Bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn hytrach na dosbarthu gyda'r llygad (siap a ffurf), ers y 1970au tueddir i ddosbarthu ar lefel foleciwlar, yn ôl tebygolrwydd o fewn y genynnau.

Sefydlwyd dosbarthiad Carl Woese ar ei astudiaeth o RNA gan rannu bywyd yn dri chategori (a alwodd "y tri prif deyrnas" neu fodel "urkingdom". Bathwyd "parth" yn 1990, ar gyfer yr haen uchaf. Rhannodd Carl Woese y prokaryotes yn ddau grŵp: Eubacteria ac Archaebacteria (neu "Archaea"), gan bwysleisio cymaint o wahaniaeth rhwng y ddddau grŵp hyn ag oedd rhwng pob un ohonynt, a'r eukaryotes. Mynnodd fod planhigion, ffwng ac anifeiliaid yn perthyn yn nes at ei gilydd (er eu bod yn edrych yn goblyn o wahanol i'w gilydd) nag oeddent i Eubacteria neu Archaea.[2] Mae ymchwil gwyddonol dro ar ôl tro wedi cadarnhau cysyniadau Woese. Er hyn, nid oes cytundeb ar y nifer o deyrnasoedd a gynigiwyd gan Woese.

Teyrnas yr Eukaryota[golygu | golygu cod y dudalen]

Coeden fywyd ffylogenetig a symbiogenetig a luniwyd yn sgil gwaith Simpson a Roger yn dangos tarddiad eukaryotes (rhan uchaf) a prokaryotes (rhan isaf).

Mewn erthygl a gyhoeddwyd yn 2004, nododd Simpson a Roger cynigiwyd mai dim ond grwpiau monoffyletig ddylai cael eu derbyn ar lefel ffurfiol wrth ddosbarthu pethau byw. Er i hyn fod yn ymarferol yn y gorffennol, roedd bellach yn bosibl i rannu'r eukaryotes i lond llaw o brif grwpiau sydd fwy neu lai i gyd yn monoffyletig.

Yn sgil hyn, cyflwynwyd diagram yn 2005 ar gyfer International Society of Protistologists, a rannodd yr eukaryotes i'r chwe prif "supergroup" (yr hyn a elwir heddiw yn "Deyrnas").

Yn y system hon o ddosbarthu pethau byw, mae'r anifiliaid amlgellog (metosoa) yn ddisgynyddion yr un hynafiaid â choanoflagellates ungellog a'r ffwng, sydd yn eu tro'n ffurfio'r grŵp Opisthokonta. Credir (yn 2015) fod planhigion yn perthyn yn agosach at anifeiliaid a ffwng.



Bywyd

Parth: Bacteria

Bacteria





Parth Archaea

Archaea





Parth Eukaryota

Excavata — Amrywiol brotosoa fflangellog



Amoebozoa — y rhan fwyaf o amoeboidau gyda ffugdraed tew a malltod slyfanog (slime mould)



Opisthokontaanifeiliaid, ffwng, choanoflagellates, etc.



RhizariaForaminifera, Radiolaria, ac amrywiol brotosoa amoeboid



ChromalveolataStramenopiles (Algâu Brown, Diatomau ayb.), Haptoffyt, Cryptophyta (neu cryptomonadau), a Alveolata



Archaeplastida (neu Primoplantae) — Planhigion y tir, Algâu Gwyrdd, Algâu Coch, a glaucoffytau






Hanes dosbarthu teynasoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r tabl canlynol yn crynhoi datblygiad y systemau o ddosbarthu pethau byw dros y blynyddoedd.


Linnaeus
1735[3]
Haeckel
1866[4]
Chatton
1925[5][6]
Copeland
1938[7][8]
Whittaker
1969[9]
Woese et al.
1977[10][11]
Woese et al.
1990[12]
Cavalier-Smith
1993[13][14][15]
Cavalier-Smith
1998[16][17][18]
2 teyrnas 3 teyrnas 2 ymerodraeth 4 teyrnas 5 teyrnas 6 kingdoms 3 parth 8 teyrnas 6 teyrnas
(dim) Protista Prokaryota Monera Monera Eubacteria Bacteria Eubacteria Bacteria
Archaebacteria Archaea Archaebacteria
Eukaryota Protista Protista Protista Eucarya Archezoa Protosoa
Protosoa
Chromista Chromista
Planhigion Plantae Plantae Plantae Plantae Plantae Plantae
Ffwng Ffwng Ffwng Ffwng
Animalia Animalia Animalia Animalia Animalia Animalia Animalia


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gweler: McNeill, J., ed. (2006), International Code of Botanical Nomenclature (Vienna Code) Adopted by the Seventeenth International Botanical Congress, Vienna, Austria, Gorffennaf 2005 (electronic ed.), Vienna: International Association for Plant Taxonomy, archifwyd from y gwreiddiol on 6 October 2012, http://web.archive.org/web/20121006231936/http://ibot.sav.sk/icbn/main.htm, adalwyd 2011-02-20, article 3.1
  2. Dagan, T.; Roettger, M.; Bryant & Martin, W. (2010), "Genome Networks Root the Tree of Life between Prokaryotic Domains", Genome Biology and Evolution 2:: 379–92, doi:10.1093/gbe/evq025
  3. Linnaeus, C. (1735). Systemae Naturae, sive regna tria naturae, systematics proposita per classes, ordines, genera & species. 
  4. Haeckel, E. (1866). Generelle Morphologie der Organismen. Reimer, Berlin. 
  5. Chatton, É. (1925). "Pansporella perplexa. Réflexions sur la biologie et la phylogénie des protozoaires". Annales des Sciences Naturelles - Zoologie et Biologie Animale 10-VII: 1–84.
  6. Chatton, É. (1937). Titres et Travaux Scientifiques (1906–1937). Sette, Sottano, Italy. 
  7. Copeland, H. (1938). "The kingdoms of organisms". Quarterly Review of Biology 13: 383–420. doi:10.1086/394568.
  8. Copeland, H. F. (1956). The Classification of Lower Organisms. Palo Alto: Pacific Books, p. 6, [1]. doi:10.5962/bhl.title.4474.  External link in |publisher= (help)
  9. Whittaker, R. H. (January 1969). "New concepts of kingdoms of organisms". Science 163 (3863): 150–60. Bibcode 1969Sci...163..150W. doi:10.1126/science.163.3863.150. PMID 5762760.
  10. Woese, C. R.; Balch, W. E.; Magrum, L. J.; Fox, G. E.; Wolfe, R. S. (August 1977). "An ancient divergence among the bacteria". Journal of Molecular Evolution 9 (4): 305–311. doi:10.1007/BF01796092. PMID 408502.
  11. Woese, C. R.; Fox, G. E. (November 1977). "Phylogenetic structure of the prokaryotic domain: the primary kingdoms". Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America 74 (11): 5088–90. Bibcode 1977PNAS...74.5088W. doi:10.1073/pnas.74.11.5088. PMC 432104. PMID 270744. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=432104.
  12. Woese, C.; Kandler, O.; Wheelis, M. (1990). "Towards a natural system of organisms: proposal for the domains Archaea, Bacteria, and Eucarya.". Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America 87 (12): 4576–9. Bibcode 1990PNAS...87.4576W. doi:10.1073/pnas.87.12.4576. PMC 54159. PMID 2112744. http://www.pnas.org/cgi/reprint/87/12/4576.
  13. Cavalier-Smith, T. (1998), "A revised six-kingdom system of life", Biological Reviews 73 (03): 203–66, doi:10.1111/j.1469-185X.1998.tb00030.x, PMID 9809012, http://journals.cambridge.org/action/displayAbstract?fromPage=online&aid=685
  14. Cavalier-Smith, T. (2004), "Only six kingdoms of life", Proceedings of the Royal Society of London B Biological Sciences 271: 1251–62, doi:10.1098/rspb.2004.2705, PMC 1691724, PMID 15306349, http://www.cladocera.de/protozoa/cavalier-smith_2004_prs.pdf, adalwyd 2010-04-29
  15. Cavalier-Smith T (June 2010). "Kingdoms Protozoa and Chromista and the eozoan root of the eukaryotic tree". Biol. Lett. 6 (3): 342–5. doi:10.1098/rsbl.2009.0948. PMC 2880060. PMID 20031978. http://rsbl.royalsocietypublishing.org/cgi/pmidlookup?view=long&pmid=20031978.