RNA

Un o'r asidau niwclëig yw RNA[2] (Ribonucleic acid (Saesneg)). Mae'n chwarae rhannau anhepgorol ym mhob cell byw. Mae i RNA nifer o swyddogaethau gwahanol. Er enghraifft, mae mRNA (m = "messenger" (Saes), negesydd) yn rhan o'r broses o drosglwyddo'r wybodaeth a gedwir yn nhrefn niwcleotidau DNA i strwythur protinau. Proteinau yw'r catalyddion gweithredol sy'n gyfrifol am yr hyn yr adnabyddir fel bywyd biolegol. Mae tRNA (t = trosi) yn allweddol yn y broses o drosi'r wybodaeth yn nilyniant DNA (mewn "iaith" niwcleotidau) i ddilyniant asidau amino proteinau, tra bo rRNA (r = ribosom) yn chwarae rhannau yn strwythur ac ymddygiad ribosomau (yr organynnau sy'n adeiladu protinau).[3]
Yng nghanrif 21, darganfuwyd sawl math o RNA sy'n ymwneud â rheoli gweithgaredd celloedd. Disgwylir i sawl un o'r rhain fod yn bwysig mewn biotechnoleg ac ym meddyginiaethau'r dyfodol.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "RNA: The Versatile Molecule". Prifysgol Utah. 2015.
- ↑ Gwefan adolygu'r BBC Archifwyd 2016-06-09 yn y Peiriant Wayback., Cyflwyniad.
- ↑ I. Tinoco; C. Bustamante (1999). "How RNA folds". J. Mol. Biol. 293 (2): 271–281. doi:10.1006/jmbi.1999.3001. PMID 10550208.
Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gwefan RNA World website Archifwyd 2007-03-14 yn y Peiriant Wayback.
- Cronfa ddata asidau niwclëig Archifwyd 2007-10-12 yn y Peiriant Wayback. Delweddau o DNA, RNA ayb.
- RNA