Catalysis

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Proffil egni gyda chatalydd (ensym) a heb gatalydd.

Mewn Cemeg a Bioleg, catalysis yw'r cyflymiad (cynnydd mewn cyfradd) o adwaith gemegol gan sylwedd a elwir yn gatalydd. Nid yw catalyddion yn cymryd rhan yn yr adwaith ei hun; hynny yw, ni chaent eu treulio yn ystod yr adwaith.[1] O ganlyniad i hyn, dim ond niferoedd bach o gatalydd sydd ei angen i gynyddu cyfradd adwaith. [2]

Yn gyffredinol, mae catalydd yn cynyddu cyfradd adwaith cemegol drwy gynnig llwybr amgen yn mynd o'r adweithyddion i'r cynhyrchion. Mae'r llwybr amgen hon yn meddu ar egni actifadu sy'n is o gymharu â'r llwybr heb-gatalydd.[3] Yn ystod mecanweithiau sy'n defnyddio catalydd, mae'r catalydd yn adweithio i ffurfio rhyngolyn dros dro, sydd wedyn yn cael ei adnewyddi yn ôl i'w ffurf cyn yr adwaith, sy'n sefydlu proses cylchol. Ceir tri phrif gategori o gatalydd, sef catalydd homogenaidd, heterogenaidd, a biolegol. Mae catalydd homogenaidd yn yr un cyflwr mater a'r adweithyddion, er enghraifft, system ble mae'r adweithyddion a'r catalydd mewn cyflwr hylif. Mae catalydd heterogenaidd yn bodoli mewn cyflwr mater gwahanol i'r adweithyddion, sy'n gan aml yn adweithyddion hylif neu nwy sydd wedi'u harsugno i arwyneb catalydd cyflwr solid. Y categori olaf yw catalyddion biolegol, sef Ensymau.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae tua 90% o brosesau cemegol masnachol yn defnyddio catalydd [4]. Yn debyg i hyn, mae rhan fwyaf o brosesau biolegol hefyd yn digwydd drwy ddefnydd o gatalydd. Mae'r ymchwil o gatalyddion yn faes eang o wyddoniaeth, sy'n deillio gwybod o sawl maes, megis cemeg a gwyddoniaeth deunyddiau. Mae catalysis hefyd yn egwyddor sylfaenol yng nghemeg gwyrdd a chynaliadwy. Yn fras, mae'r lleihad o egni mewn adwaith sy'n defnyddio catalydd yn fuddiol oherwydd yr oblygiadau mae defnyddio llai o egni yn cael ar yr amgylchedd. Yn ogystal â hyn, mae adweithiau catalytig yn llesol o gymharu gydag adweithiau stoichiometreg (h.y. adwaith sy'n treulio bod adweithyddion) oherwydd y gostyngiad o wastraff cemegol, sy'n ganlyniad o allu catalydd i ffafrio cynnyrch penodol (detholedd) a'r gallu i ailgylchu'r catalydd drwy berthynas cylchol y mecanwaith catalytig. O ganlyniad i hyn mae'r defnydd o gatalysis yn rhan o 12 egwyddor cemeg gwyrdd. Yn ogystal â'r priodweddau sylfaenol, mae'r defnydd o gatalyddion yn rhan bwysig o ddarganfod tanwyddau adnewyddadwy newydd, gan mae'r gostyngiad egniol ym mhrosesau catalytig a'r detholedd yn galluogi'r ffurfiad o gynhyrchion newydd, a'r addasiad o brosesau i ffurfio gynhyrchion penodol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Nič, Miloslav; Jirát, Jiří; Košata, Bedřich et al., eds. (2009-06-12), "catalyst" (yn en), IUPAC Compendium of Chemical Terminology (IUPAC), doi:10.1351/goldbook.c00876, ISBN 978-0-9678550-9-7, http://goldbook.iupac.org/C00876.html, adalwyd 2020-06-22
  2. "7 things you may not know about catalysis | Argonne National Laboratory". www.anl.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-22.
  3. Laidler, Keith J. (Keith James), 1916-2003. (2003). Physical chemistry. Meiser, John H., Sanctuary, Bryan C. (arg. 4th ed). Boston: Houghton Mifflin. ISBN 0-618-12341-5. OCLC 48123294.CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: extra text (link)
  4. "Recognizing the Best in Innovation: Breakthrough Catalyst". R&D Magazine: 20. Medi 2005.
Chem template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.