Asid niwclëig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y gwyddonydd Swis Friedrich Miescher, a ddarganfu asidau niwclëig (DNA) yn 1869.[1] Yn ddiweddarach, awgrymodd y gallent chwarae rhyw ran o etifeddeg.[2]

Bio-polymerau o niwcleotidau ydyw asidau niwclëig, sy'n rhan anhepgor o fiocemeg bywyd ar y ddaear. Maent yn un o'r ychydig ffactorau sy'n nodweddu popeth byw. Mae iddynt ddwy ffurf wedi'u sylfaenu ar ribos (RNA - acronym o'r Saesneg RiboNucleic Acid) a deocsiribos (DNA). Asid niwclëig deocsiribos (DNA) sy'n ymgorffori holl wybodaeth etifeddol organeb byw (a phob cell ynddynt). Dyma sylfaen y cromosomau ac etifeddiaeth fiolegol.

Mae swyddogaethau asid niwclëig ribos (RNA) yn fwy amrywiol. Er enghraifft, mae mRNA (m = "messenger" (Saes), negesydd) yn rhan o'r broses o drosglwyddo'r wybodaeth a gedwir yn nhrefn niwcleotidau DNA i strwythur protinau. Proteinau yw'r catalyddion gweithredol sy'n gyfrifol am yr hyn yr adnabyddir fel bywyd biolegol. Mae tRNA (t = trosi) yn allweddol yn y broses o drosi'r wybodaeth yn nilyniant DNA (mewn "iaith" niwcleotidau) i ddilyniant asidau amino proteinau, tra bo rRNA (r = ribosom) yn chwarae rhannau yn strwythur ac ymddygiad ribosomau (yr organynnau sy'n adeiladu proteinau). Yng nghanrif 21, darganfuwyd sawl math o RNA sy'n ymwneud â rheoli gweithgaredd celloedd. Disgwylir i sawl un o'r rhain fod yn bwysig mewn biotechnoleg ac ym meddyginiaethau'r dyfodol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Galwodd yr asidau hyn yn 'nuclein'.
  2. Bill Bryson, A Short History of Nearly Everything, Broadway Books, 2005, tud. 500.