Cromosom

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cromosom dynol 1

Llinyn DNA a geir yng nghnewyllyn y gell yw cromosom. Mae'n cynnwys bron y cyfan o gôd genetig organeb byw. Nid yw fel arefr i'w ganfod ar ei ben ei hun; yn hytrach fe'i ceir wedi lapio ei hun o gwmpas y 'niwcleosôm', sef casglaid o brotinau, ac sy'n cynnwys histonau. Yn ystod mitosis (rhaniad cell) mae'n bosib gweld cromosomau gyda chymorth meicroscop.

Yn y cromosom dynol ceir 23 pâr o gromosomau, cyfanswm 46 cromosom. Mewn gametau (sbermau a ŵyau) dynol mae 23 cromosomau.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Walter Sutton (chwith) a Theodor Boveri (dde) - dau a darganfyddodd y theori etifeddeg y cromoson yn annibynol i'w gilydd yn 1902.

O'r Groeg y daw'r gair "cromosom" (chromosome): χρῶμα (chroma, "lliw") a σῶμα (soma, "corff").

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n ddigon hawdd staenio chromatin a chromosomau.[1] Drwy wneud hyn, daeth Virchow a Bütschli i fod ymhlith y gwyddonwyr cyntaf i adnabod y strwythur iconic a adnabyddwn heddiw fel y cromosom. [2] Ond Heinrich Wilhelm Gottfried von Waldeyer-Hartz,[3] a fathodd y gair, gan gyfeirio at "cromatin" wrth wneud hynny, gair a oedd wedi'i fathu gan Walther Flemming ychydig cyn hynny.

Cromosomau bod dynol gwrywaidd.

Mewn cyfres o arbrofion a gychwynwyd yng nghanol y 1880au, dangosodd Theodor Boveri mai'r cromoson yw fector etifeddeg. Dangosodd ddau egwyddor: dilyniant cromosomau a'u hunigolrwydd; roedd yr ail o'r rhain yn gysyniad cwbwl newydd. Awgrymodd Wilhelm Roux fod y cromosom yn cario llwyth genetig, gwahanol ac ymchwiliodd i fewn i'r cysyniad hwn, a'i brofi. Ychwanegodd at ei ddarganfyddiad y wybodaeth a oedd newydd gael ei ailddarganfod, sef gwaith Gregor Mendel, a chyhoeddodd fod cysylltiad agos rhwng rheolau etifeddeg ac ymddygiad y cromosom.


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Coxx, H. J. (1925). Biological Stains - A Handbook on the Nature and Uses of the Dyes Employed in the Biological Laboratory. Commission on Standardization of Biological Stains. 
  2. Fokin, S.I. (2013). "Otto Bütschli (1848–1920): Where we will genuflect?" Protistology, 8 (1), 22–35, [1].
  3. Waldeyer-Hartz, "Über Karyokinese und ihre Beziehungen zu den Befruchtungsvorgängen," Archiv für mikroskopische Anatomie und Entwicklungsmechanik, 1888, 32: 27.
Butterfly template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am fioleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.