Geneteg

Oddi ar Wicipedia

Disgyblaeth fiolegol ydyw geneteg, sef yr wyddor o etifeddiaeth ac amrywiaeth mewn organebau byw. Daw'r gair 'genyn' o'r gair Hen Roeg (γενετικός genetikos, “genidol” a hwnnw allan o'r gair γένεσις genesis, “creu”); yr un gair â 'geni' mewn gwirionedd. Ers oesoedd cynhanes, er mwyn gwella'r cnydau ac anifeiliaid fe ddefnyddiwyd y wybodaeth fod pethau byw yn etifeddu nodweddion eu rhieni. Drwy fridio yn ddethol a gofalus, roedd yr hen ffermwyr, fel ffermwyr heddiw, hefyd yn gwella eu stoc a'u planhigion.

Ond mae geneteg fodern yn cychwyn gyda gwaith un gwyddonydd, sef Gregor Mendel (1822 - 1884) a sylweddolodd fod nodweddion a etifeddwyd yn dilyn rheolau llym; erbyn heddiw gelwir y rheolau hyn yn Rheolau Mendel. Ond yn yr 20ed Ganrif y sylweddolwyd pwysigrwydd ei waith. Arweiniodd hyn at yr hyn a wyddom ni heddiw am geneteg. Rydym ni heddiw'n galw celloedd sy'n cario'r nodweddion hyn yn genynnau.

DNA, etifeddiaeth drwy drefn foleciwlar. Mae pob edefyn o DNA yn gadwyn o niwcleotidau, yn cydweddu a'i gilydd yn y canol i ffurfio grisiau neu stepiau ar ysgol nadreddog.
Eginyn erthygl sydd uchod am fioleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.