Jean Olwen Thomas

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Jean Olwen Thomas
Jean Olwen Thomas.PNG
Ganwyd 1 Hydref 1942 Edit this on Wikidata
Treboeth Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth biocemegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/au Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Fellow of the Learned Society of Wales, Fellow of the Royal Society of Biology, Cymrawd Academi'r Gwyddoniaethau Meddygol Edit this on Wikidata

Biocemegydd o Dreboeth, Abertawe, yw Jean Olwen Thomas DBE FRS FMedSci MAE FLSW (ganwyd 1 Hydref 1942). Cafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd y Merched Llwyn-y-Bryn a Choleg Prifysgol Cymru Abertawe (lle enillodd BSc dosbarth cyntaf anrhydedd mewn cemeg yn 1964) a PhD yn 1967[1]. Mae hi'n Athro Emeritws mewn Biocemeg Macromoleciwlar ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yn gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol (1986). Cafodd gyrfa disglair yn ymchwilio i cromatin (yng nghnewyllyn y gell) yn Adran Biocemeg Prifysgol Caergrawnt. Cyfrannodd peth o'i gwaith at lwyddiant cyfaill iddi, Roger Kornberg, ennill Gwobr Nobel mewn Cemeg yn 2006[2]. Yng Nghaergrawnt bu'n Feistr ar Goleg St Catherine's[3]. Hi oedd y ferch gyntaf i'w hethol i'r swydd. Yn 2018 fe'i hapwyntiwyd yn Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe[4] (yn dilyn Rhodri Morgan).

Yn ogystal â nifer helaeth o gyfrifoldebau ac anrhydeddau rhyngwladol, anrhydeddwyd Jean Thomas gan nifer o sefydliadau Cymreig, gan cynnwys cymmrodoriaethau er anrhydedd o Brifysgolion Abertawe (1987), Caerdydd (1998) ac Aberystwyth (2009 - fel cydnabyddiaeth iddi fel gwyddonydd Cymreig[1]) a Doethuriaeth er anrhydedd gan Prifysgol Cymru yn 1992. Yn 2010 hi oedd un o Gymrodyr Cychwynnol Cymdeithas Ddysgedig Cymru[5] a hi oedd enillydd gyntaf Medal Frances Hoggan[6] y gymdeithas honno yn 2016.

Yn ôl Athro Syr John Meurig Thomas, "Mae hi'n uchel ei pharch yn y byd biocemeg."

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 "Y Fonesig Athro Jean Thomas". 2009. https://www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2009/july/title-77812-cy.html.
  2. "The Nobel Prize in Chemistry 2006". https://www.nobelprize.org/prizes/chemistry/2006/summary/.
  3. "St Catharine's College elects new Master". 2006. https://www.cam.ac.uk/news/st-catharines-college-elects-new-master.
  4. "Swansea University appoints Dame Jean Thomas as chancellor". 8 Ionawr 2018. https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-south-west-wales-42612724.
  5. "Professor Dame Jean Thomas". https://www.cymdeithasddysgedig.cymru/fellow/jean-thomas/.
  6. "The Frances Hoggan Medal". 26 Mai 2016. https://www.cymdeithasddysgedig.cymru/gwobrau/medal-hoggan/.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.