Gregor Mendel

Oddi ar Wicipedia
Gregor Mendel
GanwydGregor Johann Mendel Edit this on Wikidata
20 Gorffennaf 1822 Edit this on Wikidata
Hynčice Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd22 Gorffennaf 1822 Edit this on Wikidata
Bu farw6 Ionawr 1884 Edit this on Wikidata
o llid yr arennau Edit this on Wikidata
Brno Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCisleithania, Ymerodraeth Awstria Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbiolegydd, genetegydd, gwenynwr, mathemategydd, botanegydd, offeiriad Catholig, naturiaethydd Edit this on Wikidata
Swyddabad Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • St Thomas's Abbey Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Franz Joseph Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.mendelweb.org/ Edit this on Wikidata

Mynach Awstriaidd oedd Gregor Johann Mendel (22 Gorffennaf 18226 Ionawr 1884). Mae'n enwog am ei ddamcaniaeth ar etifeddiaeth ar gyfer pys.

Ganwyd Mendel yn Heinzendorf, Awstria (heddiw: Hyncice, y Weriniaeth Tsiec). Roedd wedi bod yn gweithio fel garddwr pan yn ifanc. Ar ôl astudio yn Olmutz Philosophical Institute daeth yn fynach Awstiniaidd yn Brno ym 1843. Mae'n debygol iddo astudio ym Mhrifysgol Fienna hefyd.

Roedd e'n astudio planhigion yn y fynachlog a rhwng 1856 a 1863 roedd e'n meithrin rhyw 28,000 o blanhigion pys ac yn datblygu ei ddamcaniaeth ar etifeddiaeth. Dechreuodd Syr Ronald Fisher, ystadegydd enwog, amau canlyniadau ei ymchwil gan ddweud eu bod nhw'n anghredadwy.

Darllenodd Mendel ei draethawd Arbrofion ar gyfer planhigion croesryw i Cymdeithas Hanes Naturiol Brünn yn Bohemia ym 1865 (cafodd y traethawd ei gyhoeddi y flwyddyn canlynol, ond ni wnaeth pobl sylweddoli pwysigrwydd ei ddamcaniaeth ar y pryd.. Ym 1900 gwnaeth Hugo de Vries, Carl Correns ac Erich von Tschermak ail-ddarganfod ei draethawd gan ddatblygu damcaniaeth modern ar gyfer esblygiad.

Bu Mendel farw ar 6 Ionawr 1884 yn Brno/Brünn, Awstria-Hwngari (sydd heddiw yn y Weriniaeth Tsiec).