Eleanor Vachell

Oddi ar Wicipedia
Eleanor Vachell
Ganwyd8 Ionawr 1879 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw6 Rhagfyr 1948 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Man preswylCymru Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethbotanegydd, casglwr botanegol Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas y Linnean Edit this on Wikidata

Botanegydd Cymreig oedd Eleanor Vachell (8 Ionawr 18796 Rhagfyr 1948) a adnabyddir yn bennaf am gasglu un o'r hebaria mwyaf cynhwysfawr a gasglwyd gan unigolion erioed, gyda ei thad, C. T. Vachell: 6705 o sbesimenau sych[1] sydd 'nawr yng nghasgliadau Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Vachell oedd y fenyw gyntaf i eistedd ar Gyngor a Llys yr amgueddfa. Cedwir ei dyddiaduron, ei nodiadau, ynghyd â'r sbesimenau â gasglodd, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd[2].

Un o'i phrif weithgareddau oedd adnabod a dosbarthu rhywogaethau newydd o blanhigion ym Morgannwg a thu hwnt, a llwyddodd dros ei hoes i ddisgrifio bron i bob planhigyn yng ngwledydd Prydain.

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Ganed Eleanor Vachell yng Nghaerdydd ar 8 Ionawr 1879, merch hynaf Winifred a Charles Tanfield Vachell, ffisegwr, botanegydd amatur[3] ac aelod o Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd.

Aeth i ysgolion yng Nghaerdydd, Malvern, a Brighton. Arferai Eleanor deithio gyda'i thad ar ei deithiau hela planhigion. Aethant drwy wledydd Prydain, Iwerddon, Llydaw, Norwy a'r Swistir.[4]

Dechreuodd Vachell gadw dyddiadur[3] pan yn ddeuddeg oed, a chadwodd hwnnw drwy ei hoes, gan gofnodi teithiau ymchwil a darganfyddiadau diddorol.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Vachell yn aelod o'r 'Committee Ladies of the Auxiliary Workers Territorial Forces Nursing Association', a oedd yn gweithio mewn ysbyty i filwyr yn Ysgol Gerddi Howard[5] yng Nghaerdydd. Yn ôl ei dyddiaduron, ei phrif swyddogaethau oedd trwsio lleiniau a sanau - ond am nad oedd hi'n hoff o bwytho, dechreuodd weithio ar gadw trefn ar lyfrgell yr ysbyty[6].

Ychydig iawn o bobl ar yr adeg honno a wyddai cymaint â hi am holl blanhigion ynysoedd Prydain ac Iwerddon.[7] Credir erbyn heddiw iddi ganfod 1787 planhigyn allan o 1800, y mwyaf a gofnodwyd gan unigolyn.[7]

Enw[golygu | golygu cod]

Seisnigiad yw ei chyfenw o enw ardal Machell a dreiglir weithiau'n 'Fachell' e.e. Mechell, Ynys Môn. Ceir hefyd enw sant: Mechell a fl. yn y 5g neu 6g ac a gysylltir ag Ynys Môn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Evans, Jennifer (5/1/2016). "Our Museum During the Great War". Amgueddfa Cymru. Cyrchwyd 29/4/2018. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  2. "Casgliadau Llyfrgell Amgueddfa Cymru". Amgueddfa Cymru. Cyrchwyd 28/04/2018. Check date values in: |access-date= (help)
  3. 3.0 3.1 Vachell 2006, t. rhagair
  4. Marilyn Ogilvie, Joy Harvey, The Biographical Dictionary of Women in Science , Routledge 2003, t. 1316
  5. "Cardiff School Log Books" (PDF). Archifau Morgannwg. t. 4. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-05-19. Cyrchwyd 28/04/18. Check date values in: |access-date= (help)
  6. Vachell 2006, t. 36
  7. 7.0 7.1 H.A.Hyde, 'Obituaries: Miss Eleanor Vachell', in Proceedings of the Linnean Society of London, Cyfrol 161, Rhif 2,, tud 252, Rhagfyr 1949
Safonwyd yr enw Eleanor Vachell gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Vachell, Eleanor; Forty; Rich (2006). The Botanist: The Botanical Diary of Eleanor Vachell (1879-1948). Caerdydd: National Museum of Cardiff. ISBN 0-7200-0565-5.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]