Rhywogaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lefelau dosbarthiad biolegol Rhywogaeth Genws Teulu Urdd Dosbarth Ffylwm Teyrnas Parth Bywyd

Magnify-clip.png
Y prif rengoedd mewn dosbarthiad biolegol.

Rheng tacson yw rhywogaeth (lluosog: rhywogaethau) a ddefnyddir i ddosbarthu'n wyddonol organebau byw (anifeiliaid, planhigion ayb). Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio o fewn bywydeg ar gyfer ffosiliau ac organebau a ddifodwyd. Ceir hefyd 'is-rywogaeth'.

Caiff 'rhywogaeth' ei diffinio'n aml fel y grŵp mwyaf o organebau ble y gall dau unigolyn gynhyrchu disgynyddion, fel arfer, drwy atgenhedlu rhywiol. Diffiniad cyffredinol yw hwn, wrth gwrs, a gall achosi problemau e.e. o fewn rhywogaethau cymhleth mae'r ffiniau rhwng rhywogaethau sy'n perthyn yn agos i'w gilydd yn niwlog, neu weithiau'n diflannu'n llwyr. Ceir ffyrdd eraill o ddiffinio 'rhywogaeth' gan gynnwys astudiaeth o'u DNA, morffoleg neu grŵp ecolegol. Weithiau mae nodweddion a esblygodd yn lleol yn dosbarthu'r rhywogaeth ymhellach, gan greu tacson megis 'isrywogaeth'.

Butterfly template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am fioleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am rhywogaeth
yn Wiciadur.