Anatomeg gymharol

Oddi ar Wicipedia
Anatomeg gymharol
MathAnatomeg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Syr Richard Owen, un o brif wyddonwyr anatomeg gymharol.

Anatomeg gymharol ydy'r astudiaeth o'r nodweddion cyffredin a'r gwahaniaethau yn anatomeg bodau byw. Mae'n wyddoniaeth sy'n perthyn yn agos iawn at fioleg esblygiad ac esblygiad yr amrywiol rywogaethau.

Y ddau gysyniad pennaf yw:

  • Strwythurau homolog: rhannau o'r corff / anatomi sy'n gyffredin ymhlith gwahanol rywogaethau gan fod gan y rhywogaethau berthynas cyffredin. Efallai fod eu diben, bellach yn hollol wahanol e.e. aelodau blaen (breichiau) cathod a morfilod
  • Strwythurau cydweddol: strwythurau sy'n wahanol mewn gwahanol rywogaethau gan iddynt esblygu mewn amgylchfyd tebyg (yn hytrach na fod ganddynt berthynas cyffredin). Mae eu diben yn debyg, neu'n eitha tebyg. Mae siâp torpido siarc a llamhidyddion er enghraifft.

Mae'r rheolau dros ddatblygiad nodweddion arbennig yn wahanol iawn yn anatomeg gymharol, i'r homologaeth cyffredin fel y rhestrwyd gan Karl Ernst von Baer (rheolau Baer).

Hanes[golygu | golygu cod]

Ystyrir mai Edward Tyson oedd sylfaenydd anatomeg gymharol. Caiff ei gredydu gyda phenderfynu fod mamliaid morol yn famaliaid. Fe ddaeth i'r casgliad hefyd, fod tsimpansïaid yn debychach i ddyn na mwncïod oherwydd eu breichiau. Fe gymharodd Marco Aurelio Severino nifer o anifeiliaid yn ogystal, ac ymysg ei waith, Zootomia democritaea, anatomeg gymharol o adar yw un o'r gweithiau cyntaf o anatomeg gymharol.