Llamhidydd

Oddi ar Wicipedia
Llamidyddion
Amrediad amseryddol: 15.970–0 Miliwn o fl. CP
Mïosen hyd y presennol
Llamhidydd yr harbwr (Phocoena phocoena) ger Denmarc.
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Cetacea
Is-urdd: Odontoceti
Uwchdeulu: Delphinoidea
Teulu: Phocoenidae
Gray, 1825

Teulu o forfiligion yw'r llamidyddion (Phocoenidae). Maent yn perthyn i forfilod a dolffiniaid.

Llamhidydd yr harbwr yw'r rhywogaeth o forfiligion leiaf ei maint a mwyaf cyffredin yn nyfroedd Ewrop.[1] Maent yn edrych yn debyg i ddolffiniaid ond heb y trwyn hir.[2]

Ysgrifennodd Tomos Prys cerdd dan y teitl "Y Llamhidydd". Mae "llamhidydd" hefyd yn hen air am ddawnsiwr.[3]

Enwau eraill[golygu | golygu cod]

Fe elwid y llamhidydd yn dorfol yn ardal Dyffryn Ardudwy (efallai yn fwy cyffredinol ym mae Ceredigion) yn “pysgod duon”.[4] Clywyd y term ar lafar gan frodor o’r ardal Wil Jones.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Harbour porpoise. BBC. Adalwyd ar 2 Rhagfyr 2012.
  2.  Llamhidydd. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 2 Rhagfyr 2012.
  3. An English and Welsh dictionary gan John Walters (3ydd argraffiad.; 1828), tud. 322
  4. Bwletin Llên Natur rhifyn 67
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am un o'r morfiligion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.