John Edward Gray

Oddi ar Wicipedia
John Edward Gray
Ganwyd12 Chwefror 1800 Edit this on Wikidata
Walsall Edit this on Wikidata
Bu farw7 Mawrth 1875 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswylLloegr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Galwedigaethbiolegydd, swolegydd, adaregydd, casglwr stampiau, botanegydd, pryfetegwr, ymlusgolegydd, malacolegydd, curadur Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe zoology of the voyage of the H.M.S. Erebus & Terror Edit this on Wikidata
TadSamuel Frederick Gray Edit this on Wikidata
PriodMaria Emma Gray Edit this on Wikidata
PerthnasauEmma Juliana Gray, Sophia Elizabeth Gray Edit this on Wikidata
Gwobr/auRoll of Distinguished Philatelists Edit this on Wikidata
llofnod

Naturiaethwr a swolegydd o Loegr oedd John Edward Gray, FRS (12 Chwefror 18007 Mawrth 1875). Roedd yn frawd i'r swolegydd George Robert Gray ac yn fab i'r cemegydd Samuel Frederick Gray (1766–1828). Roedd John Edward Gray yn geidwad yr adran swoleg yn Yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain rhwng 1840 a Nadloig 1874. Mae'n nodedig am ddosbarthu a disgrifio rhywogaethau newydd. Cododd broffil casgliadau swolegol yr Amgueddfa i fod yn un o'r gorau'n y byd. Ysgrifennodd dros 497 o bapurau academaidd a thros 500 o lyfrau.[1][2]

Un o'i lyfrau enwocaf yw "Gleanings from the Knowsley Menagerie and Aviary at Knowsley Hall, 1846-50" a ddyluniwyd gan yr arlunydd Edward Lear.

Fe'i ganwyd yn Walsall, Swydd Stafford. roedd cryn ddiddordeb gan y teulu o blanhigion; ei daid a gyfieithodd lyfr enwog Linnæus Philosophia Botanica.

Priododd Maria Emma Smith yn 1826, a bu o gymorth iddo gyda'i sgwennu gwyddonol, a thrwy lunio diagramau addas ar gyfer ei waith o ddosbarthu planhigion. Yn 1833 cyd-sefydlodd The Royal Entomological Society of London. Ar 1 Mai 1840 cyhoeddwyd y Penny Black a phrynodd nifer ohonynt er mwyn eu casglu; oherwydd hyn caiff Gray ei ystyried y casglwr stampiau cyntaf, drwy'r byd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  George Simonds Boulger (1890). "Gray, John Edward" . In Stephen, Leslie; Lee, Sidney (gol.). Dictionary of National Biography. 23. Llundain: Smith, Elder & Co.
  2. Kenney, Robert D (2009). Perrin, William F.; Wursig, Bernd; Thewissen, J. G. M (gol.). Encyclopedia of Marine Mammals (arg. 2). 30 Corporate Drive, Burlington Ma. 01803: Academic Press. t. 963. ISBN 978-0-12-373553-9.CS1 maint: location (link)