Yr Amgueddfa Brydeinig
| |
Math |
amgueddfa genedlaethol ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Bloomsbury ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.51949°N 0.12702°W ![]() |
Sylfaenwyd gan |
Hans Sloane ![]() |
Gwefan |
www.britishmuseum.org ![]() |
Mae'r Amgueddfa Brydeinig yn Llundain yn gartref i dros 8 miliwn o arteffactau o ddiwylliant a hanes dynol, ac felly yn un o'r casgliadau mwyaf sylweddol o'i bath ledled y byd.[1] Sefydlwyd hi gan ddeddf Seneddol ym 1753, a chasgliad yn perthyn i'r meddyg Syr Hans Sloane (a fu farw y flwyddyn honno) a ffurfiodd gnewyllyn yr amgueddfa wreiddiol.
Lleolir yr amgueddfa ar hen safle plasdy'r teulu Montagu, mewn adeilad a gynlluniwyd yn yr arddull Roegaidd gan Syr Robert Smirke. Ychwanegodd ei frawd iau, Sydney Smirke, y llyfrgell crwn enwog a saif yng nghwrt canolog yr adeilad. Gorchuddiwyd y cwrt hwnnw â tho gwydr gan yr Arglwydd Norman Foster yn 2000.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn diogelu rhai o'r arteffactau, fe'u cymerwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Gorsaf Reilffordd Holborn, Llundain a phlasty yn Malvern er mwyn eu gwarchod yn ddiogel. Ceir yn yr Amgueddfa nifer o drysorau o Gymru gan gynnwys Clogyn aur Yr Wyddgrug. Yma hefyd y cedwir marmorau Elgin a Charreg Rosetta.[2]
Yn 2014 ymwelodd 6,701,043 o bobl â'r Amgueddfa.[3]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "About us". British Museum. http://www.britishmuseum.org/the_museum/management/about_us.aspx. Adalwyd 26 Mawrth 2013.
- ↑ Wondrous Curiosities – Ancient Egypt at the British Museum, tt. 66–72 (Stephanie Moser, 2006, ISBN 0-226-54209-2)
- ↑ Mark Brown, arts correspondent. "The British Museum celebrates 255 years with record visitor numbers". The Guardian. http://www.theguardian.com/culture/2014/jan/14/british-museum-record-visitor-numbers. Adalwyd 15 January 2014.