Amgueddfa
Gwedd
| Enghraifft o: | math o sefydliad |
|---|---|
| Math | GLAM, sefydliad, lleoliad |
| Pennaeth y sefydliad | cyfarwyddwr amgueddfa |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/09cmq |
| Thesawrws y BNCF | 1909 |
| MeSH | D009144 |

Adeilad neu sefydliad ar gyfer cadw ac arddangos hynafiaethau a rydd oleuni ar hanes yw amgueddfa.
Erbyn heddiw mae'r mwyafrif o amgueddfeydd yn canolbwyntio ar un maes neu ystod cymharol gyfyng o bynciau, er enghraifft: celf, archaeoleg, anthropoleg, ethnoleg, hanes, gwyddoniaeth, technoleg, Byd Natur. O fewn y categorïau hyn ceir amgueddfeydd sy'n arbenigo celf fodern, hanes lleol, amaeth neu ddaeareg.
