Anthropoleg
| Enghraifft o: | disgyblaeth academaidd, pwnc gradd |
|---|---|
| Math | gwyddorau cymdeithas |
| Rhan o | gwyddorau cymdeithas |
| Yn cynnwys | archaeoleg, applied anthropology, anthropoleg fiolegol, Anthropoleg ddiwylliannol, linguistic anthropology |
| Enw brodorol | ἄνθρωπος |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0h5k |
| Thesawrws y BNCF | 6001 |

Astudiaeth dyn yw Anthropoleg. Daw'r gair o'r iaith Roeg: ænθrɵˈpɒlədʒi, (anthrōpos), sef 'dyn' (Sa:human) a -λογία, (logia), sef 'astudiaeth' ac a fathwyd gan François Péron pan ddaeth i gysylltiad gyda brodorion Tasmania.[1]
Mae pedair adran i'r wyddoniaeth: anthropoleg diwylliannol, anthropoleg biolegol, anthropoleg ieithyddol, a weithiau cynhwysir archaeoleg. Anthropoleg diwylliannol yw'r astudiaeth o ddiwylliant cymdeithasol cyfoes, anthropoleg biolegol yw'r astudiaeth o esblygiad dyn, anthropoleg ieithyddol yw hanes a datblygiad ieithoedd, ac archaeoleg sef olion materol dyn. Mae'r mwyafrif o'r anthropolegwyr yn cytuno taw dynion yw'r unig rywogaeth i gael diwylliant, tra bod rhai anthropolegwyr yn dweud bod diwylliant elfennol gyda epaod eraill fel tsimpansïaid.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Tim Flannery, (1994) The Future Eaters: An ecological history of the Australasian lands and people Chatswood: New South Wales ISBN 0802139434