Daearyddiaeth ddynol
Gwedd
Mae daearyddiaeth ddynol yn cael ei chyfri'n un o'r 'gwyddorau cymdeithas' ac yn cynnwys astudiaeth o'r Ddaear, ei phobl a'u cymuned, eu diwylliant, economeg a sut y mae pobl yn parchu neu'n amharchu eu hamgylchedd.
Mae'n cynnwys agweddau dynol, gwleidyddol, diwylliannol, cymdeithasol, ac economaidd, sef yr hyn a elwir yn wyddorau cymdeithas. Er nad prif canolbwynt daearyddiaeth ddynol yw tirwedd ffisegol y Ddaear (gwelwch daearyddiaeth ffisegol) mae bron yn amhosib i drafod daearyddiaeth ddynol heb gyfeirio at y tirwedd ffisegol ble mae gweithgareddau dynol yn digwydd, ac mae daearyddiaeth amgylcheddol yn ymddangos fel cyswllt pwysig rhwng y ddau.
Meysydd daearyddiaeth ddynol
[golygu | golygu cod]| Meysydd Daearyddiaeth Ddynol | Meysydd Cysylltiedig |
|---|---|
| Daearyddiaeth amgylcheddol | Gwyddor amgylchedd |
| Daearyddiaeth boblogaeth | Demograffeg |
| Daearyddiaeth drefol | Astudiaethau trefol a Chynllunio |
| Daearyddiaeth ddatblygiad | Datblygiad economaidd |
| Daearyddiaeth ddiwylliannol | Anthropoleg a Chymdeithaseg |
| Daearyddiaeth economaidd | Economeg |
| Daearyddiaeth farchnata | Busnes |
| Daearyddiaeth iechyd | Gwyddor iechyd |
| Daearyddiaeth filwrol | Daearstrategaeth |
| Daearyddiaeth ffeministaidd | Ffeministiaeth |
| Daearyddiaeth grefyddol | Crefydd |
| Daearyddiaeth gymdeithasol | Cymdeithaseg |
| Daearyddiaeth hanesyddol | Hanes |
| Daearyddiaeth ieithyddol | Ieithyddiaeth |
| Daearyddiaeth ranbarthol | Rhanbarthiad |
| Daearyddiaeth strategol | Daearstrategaeth |
| Daearyddiaeth wleidyddol | Gwyddor gwleidyddiaeth (yn cynnwys Daearwleidyddiaeth) |
| Daearyddiaeth ymddygiadol | Seicoleg |