Gwyddorau cymdeithas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Astudiaethau sy'n ymwneud ag agweddau cymdeithasol a diwylliannol bodau dynol yw'r gwyddorau cymdeithas. Perthnasau a chysylltiadau cymdeithasol rhwng unigolion a grwpiau yw canolbwynt y gwyddorau cymdeithas. Yn eu cwmpas mae anthropoleg ddiwylliannol a chymdeithasol, cymdeithaseg, seicoleg gymdeithasol, gwyddor gwleidyddiaeth, ac economeg. Yn aml cynhwysir hefyd daearyddiaeth gymdeithasol ac economaidd, agweddau cymdeithasol addysg, hanes, astudiaethau cymharol o'r gyfraith, a rheolaeth a busnes.

Datblygodd y ddisgyblaeth hon yn sgil dyfodiad y dull gwyddonol yn ystod oes yr Oleuedigaeth. Yn y 19eg ganrif fe'i rhennir yn anthropoleg, gwyddor gwleidyddiaeth, seicoleg, a chymdeithaseg, a chafodd damcaniaethau eang effaith sylweddol ar y maes. Ymhlith enwau mawr y cyfnod hwn oedd Auguste Comte, Karl Marx a Herbert Spencer. Yn yr 20fed ganrif datblygodd methodoleg y gwyddorau cymdeithas yn sylweddol: ymchwil mesurol, ystadegaeth, empiriaeth, a chymwyso'r maes at ddefnydd ymarferol.[1]

Ers y 1950au defnyddir y term gwyddorau ymddygiad hefyd am yr un bynciau a gwmpasir gan y gwyddorau cymdeithas. Mae'r term hwn yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng y gwyddorau cymdeithas a'r gwyddorau bywyd sy'n ymwneud ag ymddygiad dynol, megis anthropoleg fiolegol a seicoleg ffisiolegol.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) social science, The Columbia Encyclopedia, 6ed argraffiad (Gwasg Prifysgol Columbia, 2016).
  2. (Saesneg) social science. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Ebrill 2016.


Gwyddorau cymdeithas
Addysg | Anthropoleg | Cymdeithaseg | Daearyddiaeth ddynol | Economeg
Gwyddor gwleidyddiaeth | Hanes | Ieithyddiaeth | Rheolaeth | Seicoleg