Karl Marx
Karl Marx | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw |
Glückskind ![]() |
Ganwyd |
Karl Heinrich Marx ![]() 5 Mai 1818 ![]() Trier ![]() |
Bu farw |
14 Mawrth 1883 ![]() Achos: afiechyd yr ysgyfaint ![]() Llundain ![]() |
Man preswyl |
Llundain, Trier, Berlin, Paris, Dinas Brwsel ![]() |
Dinasyddiaeth |
Deyrnas Prwsia ![]() |
Addysg |
Doethur mewn Athrawiaeth ![]() |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth |
economegydd, newyddiadurwr, hanesydd, athronydd, cymdeithasegydd, chwyldroadwr, bardd, gwleidydd, ysgrifennwr ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am |
Economic and Philosophic Manuscripts of 1844, Das Kapital, The German Ideology, Y Maniffesto Comiwnyddol ![]() |
Prif ddylanwad |
Georg Hegel, Max Stirner, Ludwig Feuerbach, The Essence of Christianity ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Communist League ![]() |
Tad |
Heinrich Marx ![]() |
Mam |
Henriette Presburg ![]() |
Priod |
Jenny von Westphalen ![]() |
Plant |
Eleanor Marx, Jenny Longuet, Laura Marx, Edgar Marx, Frederick Demuth, Heinrich Edward Guy Marx, Jenny Evelin Francis Marx ![]() |
Perthnasau |
Ludwig von Westphalen ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Athronydd gwleidyddol, economegydd, a damcaniaethwr cymdeithasol dylanwadol Almaenig o dras Iddewig oedd Karl Heinrich Marx (5 Mai 1818 – 14 Mawrth 1883). Er iddo drafod nifer o bynciau yn ei yrfa fel newyddiadurwr ac athronydd, mae mwyaf enwog am ei ddadansoddiad o hanes yn nhermau gwrthdaro dosbarth. Crynhoir ei athroniaeth gan yr honiad bod diddordeb cyfalafwyr a gweithwyr cyflogedig yn gwbwl groes i'w gilydd. Ei waith enwocaf yw Das Kapital, sy'n dadansoddi cyfalafiaeth y 19g; fe'i ystyrir yn destun sylfaenol Comiwnyddiaeth a Marcsiaeth. Cydweithiodd Marx ar ddarnau o'i waith gyda'r diwydiannwr Friedrich Engels, Almaenwr arall a gefnogodd Marx yn ariannol a helpodd golygu Das Kapital. Gydag ef ysgrifennodd Marx Y Maniffesto Comiwnyddol[1] yn 1848, un o'r llawysgrifau gwleidyddol mwyaf dylanwadol erioed.
Ar ôl darllen am gyfraith Hywel Dda a'r hawliau a roddodd i fenywod, nododd Marx am y Cymry: "Tipyn o fechgyn, y Celtiaid hyn. Ond dilechdidwyr o'u genedigaeth, gan gyfansoddi popeth mewn triadau."[2]