Friedrich Engels

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Friedrich Engels
Engels.jpg
Ganwyd 28 Tachwedd 1820 Edit this on Wikidata
Barmen Edit this on Wikidata
Bu farw 5 Awst 1895 Edit this on Wikidata (74 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Humboldt, Berlin
Galwedigaeth economegydd, gwyddonydd cymdeithasol, damcaniaethwr gwleidyddol, athronydd, awdur, chwyldroadwr, cymdeithasegydd, ffeminist Edit this on Wikidata
Gwaith nodedig The Communist Manifesto, The German Ideology Edit this on Wikidata
Prif ddylanwad Heraclitos Edit this on Wikidata
Tad Friedrich Engels Edit this on Wikidata
Llofnod
Friedrich Engels Signature.svg

Athronydd Almaenig a sosialydd oedd Friedrich Engels (28 Tachwedd 1820 – 5 Awst 1895). Cyd-ysgrifennodd Y Maniffesto Comiwnyddol (1848) gyda Karl Marx.

Ganwyd yn Barmen, talaith y Rhein, ym Mhrwsia. Cychwynnodd ar yrfa fusnes yn Bremen, ac yn ei amser hamdden fe fagodd ddiddordeb yng ngweithiau'r "Almaenwyr Ifainc" (gan gynnwys Ludwig Börne, Karl Gutzkow, a Heinrich Heine) ac, yn ddiweddarach, yr "Hegeliaid Ifainc" (megis Bruno Bauer a Max Stirner). Trodd Engels yn anffyddiwr ac yn chwyldroadwr yn athroniaeth y dilechdid Hegelaidd, a chyhoeddodd erthyglau dan yr enw Friedrich Oswald. Gwasanaethodd am un flwyddyn mewn catrawd fagnelau ym Merlin, ac yno fe fynychodd ddarlithoedd yn y brifysgol.

Gadawodd y fyddin ym 1842. Bu'n cwrdd â Moses Hess, a chafodd Engels ei berswadio ganddo i droi'n gomiwnydd a symud i Loegr. Treuliodd ei ddyddiau ym Manceinion yn y swyddfa fusnes, a'i nosweithiau yn y llyfrgell yn ymchwilio i'r amodau economaidd a gwleidyddol yn Lloegr. Cyfranodd erthyglau i gylchgronau yn Lloegr ac ar y cyfandir, gan gynnwys y Deutsch-Französische Jahrbücher dan olygyddiaeth Karl Marx ym Mharis. Cafodd berthynas glos â'r Wyddeles Mary Burns, er na phriodasant. Yn sgil ei marwolaeth ym 1863, cafodd berthynas â'i chwaer Lizzy Burns, a phriodasant ym 1878 ychydig oriau cyn ei marwolaeth hi.

Dychwelodd Engels i Bremen a chyhoeddodd ei lyfr Die Lage der arbeitenden Klasse in England (1845). Cafodd gyfarfodydd â Marx ym Mharis, Brwsel, ac yn Lloegr. Roedd Engels yn un o sefydlwyr y Gynghrair Gomiwnyddol yn Llundain ym 1847.

Wedi marwolaeth Marx ym 1883, Engels a gyflawnodd y gwaith o olygu a chyhoeddi'r ail gyfrol a'r drydedd gyfrol o Das Kapital (1885, 1894). Bu farw Engels o ganser yn 74 oed.