Max Stirner
| Max Stirner | |
|---|---|
| Ffugenw | Max Stirner |
| Ganwyd | Johann Caspar Schmidt 25 Hydref 1806 Bayreuth |
| Bu farw | 26 Mehefin 1856, 25 Mehefin 1856 o Brathau a phigiadau pryfed Berlin |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Bafaria |
| Addysg | athro prifysgol mewn athroniaeth |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | athronydd, newyddiadurwr, cyfieithydd, ysgrifennwr, addysgwr, athro prifysgol mewn athroniaeth, teacher at a Gymnasium |
| Adnabyddus am | Der Einzige und sein Eigentum |
| Prif ddylanwad | Georg Hegel, Ludwig Feuerbach, Bruno Bauer, Adam Smith, Jean-Baptiste Say, Johann Gottlieb Fichte |
| Mudiad | Ethical egoism, egoist anarchism, Unigolyddiaeth, solipsism, Young Hegelians |
| Priod | Marie Dähnhardt |
| llofnod | |
Athronydd o'r Almaen oedd Max Stirner (Johann Kaspar Schmidt; 25 Hydref 1806 – 26 Mehefin 1856) sy'n nodedig am ei syniadaeth wrth-wladolaidd a gafodd ddylanwad pwysig ar anarchiaeth yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g a hefyd ar ddirfodaeth. Ei brif waith ydy'r llyfr Der Einzige und sein Eigentum (1844).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Johann Kaspar Schmidt yn Bayreuth, Bafaria, ar 25 Hydref 1806. Astudiodd ddiwinyddiaeth, ieitheg, ac athroniaeth ym Mhrifysgol Friedrich Wilhelm, Berlin, ac yno mynychodd ddarlithoedd Georg Wilhelm Friedrich Hegel a gafodd ddylanwad mawr arno. Symudodd yn ddiweddarach i Brifysgol Erlangen.
Dychwelodd i Ferlin a gweithiodd yn athro mewn ysgol baratoi i ferched. Bu'n briod ddwywaith: i Agnes Burtz, o 1837 nes ei marwolaeth yn 1838, ac i Marie Dähnhardt o 1843 nes ysgariad yn 1846. Defnyddiodd gyfoeth ei ail wraig i ymddiswyddo a throi ei sylw at roi ei athroniaeth dan glawr. Yn y cyfnod hwn cyflawnodd ei gampwaith, Der Einzige und sein Eigentum, a gyhoeddwyd yn 1844 dan y ffugenw Max Stirner. Defnyddiodd arian ei wraig hefyd i hapfuddsoddi yn y diwydiant llaeth, ac o ganlyniad fe'i carcharwyd am fethu talu ei ddyledion. Dyma'r ymddygiad a berodd i Marie gael ysgariad oddi wrtho.
Wedi hynny, enillodd ei damaid yn gyfieithydd, ac efe wnaeth drosi The Wealth of Nations gan Adam Smith i'r Almaeneg. Cyfranodd erthyglau at y cyfnodolyn rhyddfrydol Rheinische Zeitung.[1] Bu farw ym Merlin ar 26 Mehefin 1856 yn 49 oed, wedi iddo gael ei frathu gan bryf gwenwynig.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Max Stirner. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Medi 2019.