Jean-Baptiste Say

Oddi ar Wicipedia
Jean-Baptiste Say
Ganwyd5 Ionawr 1767 Edit this on Wikidata
Lyon Edit this on Wikidata
Bu farw14 Tachwedd 1832 Edit this on Wikidata
former 2nd arrondissement of Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaetheconomegydd, diwydiannwr, newyddiadurwr, cyfieithydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amSay's law Edit this on Wikidata
TadJean-Étienne Say Edit this on Wikidata
MamFrançoise Castanet Edit this on Wikidata
PlantHorace Émile Say, Octavie Say Edit this on Wikidata
LlinachSay family Edit this on Wikidata

Economegydd Ffrengig yn y traddodiad clasurol oedd Jean-Baptiste Say (5 Ionawr 176715 Tachwedd 1832). Rhoddai ei enw i ddeddf Say, sydd yn hawlio bod cyflenwad yn creu galw. Ei brif waith yw Traité d'économie politique (1803). Say oedd un o esbonwyr amlycaf syniadau Adam Smith, er iddo anghytuno â Smith ynglŷn â'i ddamcaniaeth llafur ynghylch gwerth.[1]

Gweithiodd Say i gwmni yswiriant, ac yna fel newyddiadurwr, cyn iddo olygu cylchgrawn am syniadau'r Chwyldro Ffrengig. Cafodd ei benodi i'r Dribiwnaeth yn 1799, a'i ddiswyddo yn ddiweddarach gan Napoleon. Sefydlodd melin gotwm yn 1807, a'i werthodd yn 1813. Cymerodd swydd yn dysgu economi ddiwydiannol yn Conservatoire des arts et métiers o 1817 a 1830, a bu'n athro ar bwnc economi wleidyddol yn Collège de France o 1830 hyd ei farwolaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) J.-B. Say. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Medi 2018.